Busnes Cymru ac Antur Cymru

Yn ystod yr argyfwng Covid-19 sy’n gyfnod di-gynsail, roedd angen i wasanaeth Busnes Cymru ymateb ar frys i sicrhau bod y gefnogaeth oedd mawr ei angen yn parhau’n ddi-dor ar draws Cymru gyfan. Telemat sy’n darparu’r gefnogaeth TG ar gyfer y gwasanaeth a llwyddwyd i ddod o hyd i ddatrysiad oedd yn sicrhau bod:

  • Staff Ledled Cymru yn medru gweithio o bell oddi fewn 24 awr
  • Datblygwyd sgiliau staff i fedru cael mynediad i’r amrediad llawn o ddatrysiadau gweithio o bell oedd ar gael trwy ‘Microsoft 365’
  • Parhad di-dor o gefnogaeth i’r gymuned fusnes gyda staff yn defnyddio ‘Microsoft Teams’ er mwyn cynnal cyfarfodydd cleient wyneb yn wyneb un i un
  • Cyflwyno system ffôn VOIP i alluogi delio’n rhad ac o bell i alwadau cleientiaid

 

Cefnogwyd Antur Cymru, sy’n darparu cefnogaeth fusnes trwy gytundeb Busnes Cymru yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru, er mwyn i’w holl staff sef 80 o weithwyr fedru gweithio o bell oddi fewn i gyfnod o 24 awr o gyhoeddi’r cyfnod clo. Roedd hyn yn cynnwys y gallu i drafod y cyfrifon yn llawn gan sicrhau bod gweithgareddau allweddol megis anfonebu, olrhain llif arian a thalu cyflenwyr yn medru parhau.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction