Yr Aur I Antur Eto.

 

Yn dilyn  asesiad Committed2Equality (C2E) yn ddiweddar mae’r cwmni’n falch iawn I gyhoeddi ei fod wedi cadw’r Safon Aur a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Mae cyrraedd y Safon Cydraddoldeb Cenedlaethol hwn nid yn unig yn rhoi mantais i’r cwmni ar gyfer ennill busnes mewn marchnad gystadleuol iawn,  ond mae hefyd yn rhan allweddol o’n Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol tuag at ein gweithwyr o fewn y cwmni ac o ran y gwasanaeth ry’ ni’n darparu yn allanol drwy ein prosiectau ein hunain yn ogystal â’r cytundebau ar ran ein partneriaid.

Bev Pold yw Cadeirydd Antur Teifi. “Fel cwmni, ry’ ni’n falch iawn o’r llwyddiant hwn ac yn arbennig felly eleni gan ein bod wedi sicrhau’r sgôr uchaf ers ymuno â’r cynllun.  Mae’n arwydd clir o ymrwymiad  y cwmni yn ei fwriad o gynnal y safonau uchel wrth gefnogi busnesau a’r gymuned.”

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction