Bydd gweithredu’r Ddeddf Gynllunio newydd (Cymru ) 2015 yn golygu y bydd angen deialog effeithiol gyda chymunedau. Bydd ymgynghori cyn-ymgeisio am ddatblygiadau mawr yn angenrheidiol. Bydd angen i sefydliadau i ymgynghori’n effeithiol i ddenu cyllid o dan nawdd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020.
Mae ymgynghori cymunedol effeithiol hefyd wedi cael ei nodi’n elfen bwysig ar gyfer prosiectau a gyflwynwyd i’w hystyried yn rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Bydd rhaid i sefydliadau sgorio’n uchel er mwyn sicrhau cymhwysedd wrth gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau isadeiledd ar raddfa fechan neu ar gyfer ehangu gwasanaethau sylfaenol lleol neu adnoddau cyhoeddus.
Bydd ymgynghori felly yn sianel bwysig ar gyfer casglu gwybodaeth er mwyn cyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol fydd ei hangen wrth brofi consensws cyffredinol o angen yn y gymuned – boed yn y gwaith o ddatblygu cae chwarae neu adnewyddu neuadd bentref.
Gall y dystiolaeth sydd ei hangen ond cael ei gasglu’n llwyddiannus trwy’r broses o ymgynghori sy’n ddibynol ar adnabod y cwestiynau cywir i’w gofyn, sut i’w gofyn a phwy i ofyn.
Mae Canta yn aelod o’r Consultation Institute a gallwn helpu sefydliadau i ddewis y dulliau ymgynghori cywir sy’n briodol i’w hanghenion.
Dyma’r canllaw ry’ ni’n ei ddefnyddio i ddechrau’r broses ymgynghori o fapio rhai o’r cwestiynau holl bwysig.