Cyflwynodd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberInnovation), mewn partneriaeth ag IoD Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys a Antur Cymru, weminar unigryw i drafod y safbwyntiau a’r cyfleoedd ar gyfer datblygu economi canolbarth Cymru.
Wedi’i hwyluso gan Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Cenedlaethol yr IoD, ysgogwyd y ddadl gan banel arbenigol o arweinwyr o bob rhan o’r rhanbarth ac archwiliwyd ffyrdd o weithio ar y cyd i gefnogi datblygiad menter yng Nghanolbarth Cymru trwy ddatblygu economaidd cynaliadwy.
Ymhlith y themâu allweddol yr ymdriniwyd â hwy roedd:
- Sut i symud ymlaen trwy heriau cyfredol Brexit a Covid a chreu dyfodol blaengar ac optimistaidd i’r rhanbarth.
- Sut mae cydweithredu i’r dyfodol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat a ffurfio naratif cadarnhaol ar gyfer datblygu economaidd yng Nghanolbarth Cymru.
- Sut i lywio ac amlygu’r gefnogaeth fusnes sydd ar gael.
Rhoddodd Bronwen Raine, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Cymru, gipolwg gwerthfawr ar ddatrysiadau arloesol y mae busnesau wedi’u datblygu mewn ymateb i argyfwng Covid. Roedd un o’r datrysiadau hyn yn cynnwys busnes yng nghanol Cymru sydd fel arfer yn dibynnu ar brynu wrth gyflenwyr yn Ewrop wedi buddsoddi a datblygu cyflawniad mewnol.
‘Roedd Bronwen o’r farn bod y weminar wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
“Roedd yn ysbrydoledig gweld nifer y busnesau a sefydliadau yng nghanolbarth Cymru sy’n awyddus i edrych ar yr agenda arloesi ac mae hyn yn argoeli’n dda iawn ar y cyfle i adeiladu ar yr arfer da sy’n bodoli eisioes.”
Mynychodd mwy na 80 o bobl fusnes o’r sector preifat a chyhoeddus y digwyddiad rhithiol a gynhaliwyd Dydd Mawrth, 15ed Rhagfyr
I gael rhagor o wybodaeth am AberInnovation ewch i’r wefan www.aberinnovation.com
Mae Antur Cymru yn asiantaeth fusnes yng Nghymru sy’n cefnogi economi fusnes Cymru trwy gynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol tref.
Gyda dros 40 mlynedd fel rhan o’r dirwedd fusnes yng Nghymru, rydym yn darparu gwasanaeth Cyngor Busnes yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru yn ogystal â chynnig ystod o wasanaethu ymgynghori busnes masnachol ac ymgynghori arbenigol. www.anturcymru.org.uk