Y Gymraeg yn gwneud y gwahaniaeth

Mae 92% o fusnesau a gofrestwyd yn Nyffryn Teifi yn gwmnïau bach.  Er ein bod erbyn hyn yn gweithio gyda chwmnïau ledled Cymru, ry’ ni’n credu bod gennym gyfraniad gwerthfawr i’w wneud o ran cefnogi busnesau bach a thwf yn Nyffryn Teifi nid lleiaf drwy weithio mewn partneriaeth â Pharth Twf Dyffryn Teifi  a grëwyd o ganlyniad i ganfyddiadau’r Gr?p Gorchwyl Gorffen Dyffryn Teifi a sefydlwyd gan Edwina Hart,  Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth .

TEST Ym mis Gorffennaf 2015, ar ran Busnes Cymru trefnwyd cyfres o seminarau gan Canta dan y teitl – “Deall manteision defnyddio’r iaith Gymraeg mewn busnes”  – a baratowyd yn benodol ar gyfer busnesau Dyffryn Teifi .

Arweiniwyd y seminar gan Gwmni Iaith (Castellnewydd Emlyn) – cwmni sy’n gweithio nid yn unig yn Nyffryn Teifi ond ym mhob ran o Gymru, ac yn wir, ar draws Ewrop. Fe wnaeth y  seminar godi ymwybyddiaeth ehangach o werth y Gymraeg mewn busnes a masnach o ran:

  • siarad â’ch cwsmeriaid
  • rhoi mantais unigryw i’ch busnes
  • creu perthynas tymor hir â chwsmeriaid
  • y Gymraeg yn agor cyfleoedd i farchnadoedd newydd
  • y Gymraeg yn ffordd o ddangos parch a chwrteisi

Cynhaliwyd y seminarau ym mhrif  drefi  Dyffryn Teifi – Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan a Chastell Newydd Emlyn a Llandysul.  Arweiniodd y sesiynau at well ddealltwriaeth o’r deinamig creadigol a rhagweithiol sy’n bodoli o fewn y cymunedau Cymraeg eu hiaith yn y dyffryn yn ogystal â chryfhau’r awydd ymysg y mynychwyr i gael cyfle i chwarae eu rhan yn y deinamig.

Roedd y seminar yn agoriad llygad i Kate McDermott,  perchennog siop anrhegion Ruby Rose yn Llanbedr Pont Steffan .

“Cefais llawer o wybodaeth o’r sesiwn a chefais fy ysbyrdoli hefyd”.  Mae hi eisoes wedi gweithredu rhai o’r syniadau ar ôl mynychu’r digwyddiad.

Mae gweithdai dilynol wedi eu trefnu ar gyfer busnesau a fydd yn ceisio adeiladu ar y buddion a amlygwyd yn ystod y sesiynau  – a thrwy gydweithio gyda pherchnogion busnes – eu defnyddio i greu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Dyffryn Teifi.

Gan ddefnyddio’r fformat gymunedol Y Pwerdy, bydd y gweithdai yn gyfle i gael trafodaeth agored a gonest, trafodaeth gadarnhaol a chyd-chreadigol, a fydd yn arwain at gymuned gynaliadwy a bywiog trwy fusnes.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction