Wedi eu trefnu gan Fusnes Cymru, cynhaliwyd cyfres o seminarau ar draws Dyffryn Teifi yn ystod mis Gorffennaf a mis Medi ar gyfer perchnogion busnes yn yr ardal. Nod pob seminar oedd canfod pam a sut y byddai busnesau yn elwa o ddefnyddio’r iaith Gymraeg i hyrwyddo eu busnes .
Hwn oedd y gweithgaredd cyntaf o fenter ddeublyg gyda’r bwriad o ddatblygu “ymdeimlad o le” ar gyfer Dyffryn Teifi – gyda’r iaith Gymraeg wrth galon y gweithgaredd – er mwyn creu pwynt gwerthu unigryw y gellir ei ddefnyddio er budd i fusnesau
Y gweithdy nesaf fydd y Pwerdy. Bydd hwn yn gyfle i gydweithio gyda phobl o’r un anian i roi siap ar strwythur yr hunaniaeth honno a fydd yn cynhyrchu pwer ychwanegol i botensial yr iaith Gymraeg i elwa …
- busnesau a’n mentrau ein hunain, ac
- economi Dyffryn Teifi yn gyfan gwbl.
O’r rhestr isod, dewiswch y Pwerdy fydd fwy cyfleus i chi. Bydd bwffe da yn eich disgwyl i’ch harbed rhag y ffwdan o lyncu swper cyn hastu i’r cyfarfod.
Bydd dim angen i chi ddod a dim gyda chi heblaw beiro a brwdfrydedd.
Dyddiadau a Lleoliadau:
- Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn 2 Tachwedd, 2015, 7.00 – 9.00pm
- Gwesty’r Porth Llandysul 3 Tachwedd, 2015, 7.00 – 9.00pm
- Ystafell Y Twr, Castell Aberteifi 9 Tachwedd, 2015, 7.00 – 9.00pm
- Clwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan 10 Tachwedd, 2015, 7.00 – 9.00pm
Cysylltwch ag Eleri Lewis i sicrhau lle I sicrhau eich lle ar 01239 712321 neu [email protected] Darperir lluniaeth ysgafn felly nodwch unrhyw anghenion bwyd arbennig os gwelwch yn dda.
Dosbarthir gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru gan Antur Teifi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.