Wi-Fi rhad ac am ddim i drefi a thraethau Sir Benfro

A allai eich tref chi elwa o wella’r berthynas gydag ymwelwyr?  Efallai eich bod  eisoes yn gweithredu opsiynau gwahanol o gyfathrebu â nhw e.e. pwyntiau gwybodaeth o amgylch y dref, trwy’r wefan neu golofn “beth sy’ ‘mlaen” yn y papur lleol. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried cyflwyno Wi-Fi rhad ac am ddim trwy’r dref ar eu cyfer?

Mae Telemat yn cydweithio â Chyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn gosod cysylltiadau wi-fi mewn 10 o drefi ar draws y Sir. Yn rhan o o gynllun peilot tair blnyedd gwerth £160,000 y nod yw i roi hwb i fusnesau a thwristiaeth a hynny, yn y pendraw, ym mhob dref yn y Sir.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad llawn am y prosiect

Pam bod Wi-Fi yn bwysig?

Dros y blynyddoedd mae cysylltu â’r rhyngrwyd wedi dod yn fwy-fwy pwysig. Mae’r rheswm am y cynnydd yn mynd law-yn llaw â’r cynnydd yn nifer y bobol sy’n berchen ar ffonau clyfar. Gall cyswllt anghyson â’r we neu signal gwael effeithio ar eich  tref mewn ffordd negyddol. Gallai methu â chynnig cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy ddylanwadu ar faint o amser y mae pobl yn aros yn eich tref,  lefel ymgysylltiad ymwelwyr â’r dref  ac a fyddant yn debygol o  dychwelyd eto.

Mae yna nifer o resymau pam bod ymwelwyr yn dymuno cael mynediad i’r rhyngrwyd. Dyma rai ohonynt:

  • Er mwyn i ymwelwyr newydd i’r dref ddod o hyd i wybodaeth am weithgareddau ac atyniadau i ymweld â nhw.
  • Mae mwy a mwy o bobl yn dymuno cadw mewn cysylltiad gyda gwaith trwy e-bost yn ystod eu harosiad.
  • Mae’r byd sydd ohoni yn fyd sy’n hoff o gymdeithasu’n gyhoeddus. Mae angen mynediad i’r llwyfannau cymdeithasol ar bobl i rannu eu profiadau ac i ddilyn eu cylchoedd cymdeithasol ar-lein.
  • Gyda’r holl gemau a fideos sydd ar lein, mae dyfeisiau tabled yn cael eu defnyddio fel ffynhonnell o adloniant ar gyfer plant.
  • Mae llawer o bobl yn defnyddio eu ffonau clyfar i ffeindio’u ffordd o gwmpas y dref. Gellir gwneud hyn trwy apps gwe-lywio. Mae angen mynediad wi-fi da er mwyn  i’r rhain i weithio’n effeithiol.

Manteision wi-fi am ddim i’ch tref

  • Y gallu i fonitro y mannu y mae ymwelwyr yn ymweld â nhw fwya
  • Deall gofynion eich ymwelwyr.
  • Rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dref
  • Hyrwyddo siopau a chynigion a gweithgareddau

Gallai wi-fi mewn trefi rhoi hwb i fusnesau.

Wi-Fi rhad am ddim i ddeg o drefi Sir Benfro yn cynnwys Hwlffordd, Aberdaugleddau a Th? Ddewi.

Llandrindod yn lansio wi-fi rhad ac am ddim mewn manau agored yn y dref.

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction