Gall y syniad o’u busnes gael ei darfu droi perchnogion busnes rhag mabwysiadu band-eang cyflym iawn. Ar yr un gwynt gallent ofyn “Beth sydd o fantais i mi?” Yr ateb yw llawer! Gall band-eang drawsnewid eich prosesau dydd-i-ddydd, gan eu gwneud yn fwy dibynadwy ac effeithlon, ynghyd ag arbed arian i chi. Mae’r rheswm hwn yn ddigon i fusnesau bach ddechrau edrych ar ei bosibilrwydd.
Dywedodd Gareth Jones o Business in Focus, yn Ne Cymru, “Drwy wneud y newid i fand eang cyflym iawn rydym wedi arbed £1800 y flwyddyn ac rydym wedi cynyddu cyflymder ein band eang i 100Mbps o’i gymharu â chyfartaledd cyflymder band eang Cymru o 9Mbps. Mae hyn wedi ein helpu’n enfawr o ran gwella ein gwasanaethau i gleientiaid ac mae wedi gwneud bywyd yn haws i’n holl staff.”
Gallwch helpu eich busnes:
- Arbed amser ac arian – defnyddio galwadau fideo yn lle teithio i gyfarfodydd.
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid gwell drwy ymateb i’w hymholiadau’n gyflymach
- Lanlwytho a lawrlwytho dogfennau’n llawer cynt – arbed eich amser chi a lleihau rhwystredigaeth.
- Torri costau TG drwy ddefnyddio technoleg Cwmwl.
- Codi ymwybyddiaeth o’ch busnes drwy gyfryngau cymdeithasol effeithiol.
Gwelwch sut mae busnesau yng Nghymru wedi denu cleientiaid newydd ac wedi dod yn fwy proffidiol drwy newid i Fand Eang Cyflym Iawn. Gwyliwch y ffilm fer hon i gael gwybod mwy. https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/