Seminar gan Fusnes Cymru ar gyfer perchnogion busnes a rheolwyr
Seminar a fydd yn helpu’ch busnes i gael y fantais fwya’ o’ch gallu i weithio’n ddwyieithog.
Mae gwerth y Gymraeg mewn busnes a masnach yn cynnwys:
• siarad â’ch cwsmeriaid
• rhoi mantais unigryw i’ch busnes
• creu perthynas tymor hir â chwsmeriaid
• y Gymraeg yn agor cyfleoedd i farchnadoedd newydd
• y Gymraeg yn ffordd o ddangos parch a chwrteisi
Mi fydd y seminar hefyd yn eich cysylltu â’r ffynonellau o gefnogaeth sydd ar gael. Dyma ddwy awr fydd yn fuddsoddiad pwysig ar gyfer eich cwmni a’ch cymdogaeth.
Lleoliadau:
• Castell Aberteifi 8/7/15 8.00 –10.00am
• Gwasg Gomer, Llandysul 8/7/15 6.00 – 8.00pm
• Clwb Rygbi Llanbed 9/7/15 8.00 –10.00am
• Neuadd Cawdor, Castellnewydd Emlyn 9/7/15 6.00 – 8.00pm
Darperir lluniaeth ysgafn (Rhowch wybod am unrhyw anghenion bwyd arbennig).
I sicrhau lle cysylltwch ag : Eleri Lewis ar
01239 712321
07964 114527
[email protected]
Wedi ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.