Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn gystadleuaeth sy’n dathlu’r gorau o dwristiaeth Cymru. Maent yn arddangos busnesau twristiaeth Cymru a llwyddiannau’r diwydiant.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddydd Iau, 8 Mawrth 2018 yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ac rydym nawr yn gwahodd enwebiadau yn yr ystod o gategorïau sy’n cael eu hamlinellu isod.
Dyma gategorïau’r gwobrau:
- gwesty gorau
- gwely a brecwast gorau
- llety hunanddarpar gorau
- maes carafanau, gwersylla neu glampio gorau
- atyniad gorau
- gweithgaredd gorau
- digwyddiad gorau
- lle gorau i fwyta
- cyrchfan orau
- person ifanc twristiaeth y flwyddyn
- gwobr arloesi busnesau twristiaeth
Mae’r dyddiad cau ar y 12fed o Ionawr 2018.
Am ragor o fanylion ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/newyddion-blogiau/newyddion/gwobrau-twristiaeth-cenedlaethol-cymru-2018