Tipiau Marchnata Twitter.

Tipiau Marchnata Twitter.

Mae Twitter yn gweld 6,000  o drydariadau bob eiliad felly mae’n offeryn

marchnata defnyddiol i’ch busnes er mwyn cael adborth gwerthfawr gan gwsmeriaid a thynnu sylw at eich brand wrth ddenu cwsmeriaid newydd. Mae hefyd yn ffordd dda o gynnig cefnogaeth i gwsmeriaid.

Cymrwch olwg ar rai o’r ystadegau diddorol isod:

Lawrlwythwyd 11.7 miliwn o gyfrifon Twitter ar yr App Store yn chwarter cyntaf 2019. Mae 75% o fusnesau B-i-B yn marchnata eu cynnyrch a/neu wasanaethau ar Twitter.  Mae 500 miliwn o drydariadau yn cael eu hanfon bob dydd.

Dyma rai tipiau hawdd eu darllen ar gyfer defnyddio Twitter i bwrpas hyrwyddo:

1. Rhowch eich Trydariad cyfredol a mwyaf perthnasol yn gyntaf.

Defnyddiwch pin wrth drydar eich neges fusnes neu neges werthu fwyaf cyfredol i sicrhau ei bod yn cael lle amlwg. Defnyddiwch ddolen yn cynnwys rhagor o fanylion yn enwedig os yw’n gynnig arbennig neu’n eitem newyddion allweddol ac yna ôl-ddolen i’ch gwefan.

2. Tynnwch sylw at eich stori.

Mae peiriannau pori fel Google yn defnyddio eich bywgraffiadur yn y mynegai felly defnyddiwch eich bywgraffiadur fel eich pwynt cyswllt cyntaf. Cofiwch ei wneud yn berthnasol i’ch neges fusnes gyfredol a beth sy’n gwneud chi’n wahanol i’ch cystadleuwyr.

3. Defnyddiwch wynebau eich tîm i greu ymdeimlad o agosatrwydd.

Fel busnes bach, ‘falle byddwch chi’n hoffi creu cyswllt personol gyda’ch cwsmeriaid.

Bydd defnyddio aelodau o’ch tîm yn y trydariadau yn helpu i gyfleu’r neges eich bod ar gael i siarad a bod gennych ddiddordeb yn yr hyn sydd gan eich cwsmeriaid i ddweud am eich busnes.  Ry’ chi yno i sgwrsio felly anogwch nhw i adeiladu perthynas.

4. Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad Twitter (URL) wrth gyfathrebu.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich URL Twitter ym mhob cyfathrebiad marchnata a gwerthu gan gynnwys eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan. Rhaid ei fod yn ddolen hawdd ei chlicio sy’n mynd â’ch cwsmeriaid yn syth i’ch proffil Twitter.

5. Trydarwch yn gyson.

Mae’n arfer da i drydaru bob dydd.  Mae trydaru’n gyson yn gwella effeithlonrwydd eich negeseuon. Gallwch ddefnyddio offeryn amserlennu Twitter i gynllunio amseriad a chynnwys eich negeseuon.

6. Mae’n arfer da i roi sylwadau ar neges ac ail-drydaru.

Ychwanegwch sylwad wrth ail-drydaru gan ei fod yn creu’r argraff eich bod yn wybodus ac yn ychwanegu gwerth at y cynnwys.   Cofiwch, gwnewch hyn dim ond pan fydd gennych rywbeth perthnasol i’w ddweud.

7. Ail-drydarwch eich negeseuon trydar.

Cofiwch gellir ystyried rhai o’ch trydariadau fel cynnwys parhaus. Peidiwch â bod ofn ail-drydaru cynnwys ry’ chi’n teimlo fydd o ddiddordeb i’ch dilynwyr fisoedd lawer ar ôl eich trydariad gwreiddiol.

8. Gochelwch rhag Sbamio.

Mae Twitter yn cymryd Sbamio o ddifrif p’un a yw’n gyfrif ffug neu’n ddelweddau proffil ffug. Mae’n gallu digwydd weithiau gan nad oes angen cyfeiriad e-bost wedi’i ddilysu ar Twitter. Os byddwch chi’n defnyddio Sbam fel tacteg hyrwyddo byddwch yn creu delwedd amatur ohonoch chi eich hun ac yn cythruddo darpar gwsmeriaid.

Mae sbamio hefyd yn ffinio ar fod yn anghyfreithlon, yn dacteg nad yw’n cael ei gymeradwyo a gall o bosib effeithio ar y rhyngweithio cadarnhaol â’ch cynulleidfa.

9. Defnyddiwch hashnodau cywir.

Gwnewch yn siwr eich bod yn darganfod hashnodau cyfredol a sut orau i’w defnyddio.  Dyma rai tipiau gan Twitter:

GWNEWCH:

  • …gor-ddefnyddio hashnodau. Defnyddiwch un neu ddau o hashnodau perthnasol fesul Trydar yw’r cyngor gorau a sicrhau eich bod yn cadw eich neges yn gryno.
  • …gwthio slogan eich brand i fod yn hashnod. Mae hashnod i fod yn gynhwysol, yn rhwydd i rannu ac yn rhwydd i ddarganfod. Os nad yw’n ffitio’n naturiol o fewn Trydar bydd yn colli’r pwrpas a fwriadwyd.
  • …disgwyl i bobl ddefnyddio’ch hashnod heb reswm. Gall yr hashnodau gorau dynnu pobl i mewn ac ennyn chwilfrydedd i ymuno yn y sgwrs.
  • …cholli ar y cyfleoedd i ddysgu mwy am Twitter a sut i’w ddefnyddio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu’r hashnod ac yn bwysicach, ystyried pam y byddai rhywun am ei gynnwys yn ei neges.
  • …defnyddio yr holl CAPS LOCK. Oni bai ei fod yn acronym, mae hyn yn gyfystyr â gweiddi allan yn uchel!  Hefyd, mae’n cymryd ychydig fwy o ymdrech wrth deipio.

Cliciwch yma i weld yr erthygl yn llawn:

https://The dos and don’ts of hashtags (twitter.com)

10. Dilynwch ddylanwadwyr sydd â synergedd â’ch busnes.

Mae angen i chi ddewis pwy chi’n ei ddilyn yn ofalus a chanolbwyntio ar yr hyn ry’ chi’n ceisio’i gyflawni drwy ddilyn y person/busnes hwnnw.  Dylai hyn arwain at adeiladu cymuned o ddilynwyr sydd yn dewis bod yn rhan o’ch cymuned fusnes chi. Bydd cymryd

gofal dros eich dewisiadau yn fuddsoddiad ar eich amser ac yn fuddsoddiad ar Twitter.

11. Uwchlwythwch eich cysylltiadau ar Twitter.

Ffordd hawdd arall o ddechrau cynyddu eich cymuned Twitter yw chwilio am holl ddata eich cwsmeriaid. Edrychwch drwy eich negeseuon e-bost a chofnodion eich cwmni, chwiliwch am y cysylltiadau hynny ar Twitter ac yna dechreuwch eu dilyn. Gallwch wneud yr un peth gyda’ch proffil busnes ar Facebook a LinkedIn lle gallwch chwilio am gysylltiadau newydd penodol yn seiliedig ar sector a swydd ac yna eu dilyn ar Twitter.

12. Tagiwch fusnesau a phobl fusnes eraill.

Peidiwch â bod ofn tagio busnesau a phobl fusnes eraill os ydych yn credu bydd ganddynt ddiddordeb yn eich neges. Os ydyw’n gyhoeddiad busnes e.e. efallai y bydd gan y wasg

ddiddordeb mewn ysgrifennu stori amdano, neu efallai y bydd yn creu argraff ar gleient sydd gennych ddiddordeb ynddo.

13. Ymatebwch i bob ymholiad a sylwad.

Bydd gwneud hyn yn dangos bod gennych ddiddordeb yn y gymuned Twitter ry’ chi wedi buddsoddi amser i feithrin. Golyga hefyd nad ydych yn colli ar unrhyw gyfleoedd busnes. 

14.  Cynhaliwch sgwrs Twitter.

Mae’n cymryd rhywfaint o waith paratoi, ond os ydych am sefydlu eich hun fel awdurdod a dangos bod ganddoch hygrededd yn eich maes, mae’n ffordd wych o adeiladu cymuned gydag eraill o’r un anian.

15. Trydarwch o ddigwyddiadau byw.

Mae trydaru’n fyw yn golygu rhannu cyfres o negeseuon o ddigwyddiadau, Y fantais o wneud hyn yw ei fod yn ffordd hawdd o greu cynnwys cyfredol a newydd.  Mae hefyd yn ffordd wych o ychwanegu at nifer eich dilynwyr ac wrth gynnwys dolen mae’n helpu i yrru traffig i’ch gwefan.

16. Gweithio gyda dylanwadwr busnes neu fusnes arall â chysylltiad â’ch brand.

A oes yna arbenigwyr yn eich maes penodol chi? A oes gennych arbenigedd fyddai gan arbenigwyr busnes eraill ddiddordeb ynddo?  Neu a oes cyfle i weithio ar y cyd  gyda busnes sy’n cynnig budd i’r ddwy ochor a chyfleoedd hyrwyddo?  Cysylltwch â’r busnesau a’r dylanwadwyr hyn i helpu yn y gwaith o ledaenu eich neges i gynulleidfa lawer ehangach ac i godi eich hygrededd chi a’ch brand.

17. Defnyddiwch drydariadau wedi’u hyrwyddo i gynyddu eich cyrhaeddiad.

Os oes gennych gyllideb neu os ydych am brofi cyllideb fach gall hysbysebion Twitter fod yn llai costus trwy ddefnyddio allweddeiriau ar gyfer targedu uniongyrchol.  Dim ond ar ganlyniadau perfformiad y neges byddwch yn talu h.y. byddwch ond yn talu pan fyddwch yn cyrraedd y nodau a osodwyd ar ddechrau’r ymgyrch.

Mae Twitter hefyd yn caniatáu i chi gyrraedd cynulleidfa ehangach neu gynulleidfa wedi’i theilwra sy’n dilyn eich cyfrif penodol.

18. Cofiwch gynnwys lluniau a fideos.

Mae cynnwys lluniau a fidoes yn well nag anfon trydariadau testun yn unig. Dyma rai syniadau i’ch helpu i lenwi eich calendr cyfryngau cymdeithasol gyda delweddau deniadol i’w cynnwys yn eich negeseuon:

Dysgwch sut i ddefnyddio fideo: Mae eich cynnwys ddeg gwaith yn fwy tebygol o ennyn diddordeb eich cynulleidfa os ydyw’n cynnwys fideo.

Peidiwch â dyfalu yr amser gorau i drydar:  Mae eich cynulleidfa’n unigryw. Er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau, dadansoddwch y wybodaeth sydd gennych am eich cynulleidfa. Gwnewch yn siŵr bod eich delweddau’n cael eu gweld gan ddilynwyr penodol ar yr adeg y maent yn fwyaf tebygol o fod ar Twitter.

Defnyddiwch Twitter Analytics i fesur beth mae eich cynulleidfa’n ei hoffi: Defnyddiwch yr offer ymgysylltu, cyrhaeddiad ac argraffiadau i fesur beth mae eich dilynwyr yn ei hoffi ac yn ymgysylltu ag ef. Defnyddiwch hwn i fireinio eich negeseuon, pynciau, lluniau a chynnwys eich fideo mor aml ag y gallwch.

Dilynwch y rheol 80/20: Mae ymchwil gan Rutgers wedi darganfod bod cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n rhannu gwybodaeth yn hytrach na hyrwyddo, ar gyfataledd, wedi ennill dwywaith nifer y dilynwyr.

Penderfynwch a ydych eisiau defnyddio hiwmor neu beidio. Cofiwch y gall hiwmor a bod yn sarhaus ymddangos yn debyg felly byddwch yn ofalus wrth gynnwys hiwmor yn eich negeseuon, Meddyliwch am eich cynulleidfa a sefydlwch y cywair cywir sy’n cydfynd â llais eich busnes. Peidiwch â pheryglu enw da eich busnes trwy ddefnyddio jôc neu sylw amhriodol.

A oes angen help arnoch gyda’ch strategaeth farchnata?  Oes angen mireinio eich negesuon cyfathrebu neu  a oes angen ail-gynllunio eich  llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu wefan?

Am wybodaeth bellach cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://anturcymru.org.uk/cy/gwasanaethau-ymgynghorol/

Neu holwch am ein Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Busnesau Cymreig trwy siarad â Dai Nicholas,

ein Rheolwr Marchnata ar 07736542280.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction