Tipiau Marchnata SMS.

Cyfeirir at SMS yn fwy cyffredinol fel “tecstio/neges destun”.  Dyma’r ffordd y mae biliynau o bobl yn dewis cyfathrebu, ac amcangyfrifir bod 75% o ddefnyddwyr yn dymuno derbyn neges destun gyda chynigion arbennig.

Cyn i chi ddechrau defnyddio SMS gwaredwch unrhyw wrthdaro posibl yn deillio o ymgyrchoedd SMS trwy:

  • Gynnwys neges optio allan drwy ddweud wrth bobl y gallant deipio “STOP” ar unrhyw adeg.
  • Wrth gofrestru, rhowch wybod iddynt pa mor aml y gallant ddisgwyl
  • diweddariadau.
  • Nodi’r math o gynnwys y byddant yn ei dderbyn.
  1. Anfon bargeinion a chynigion arbennig drwy neges destun.

Mae busnesau’n defnyddio SMS i anfon negeseuon hyrwyddo a gwerthu oherwydd ei fod yn un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithiol o dargedu darpar gwsmeriaid a chwsmeriaid cyfredol.

Er enghraifft, cyn gynted â bydd gennych restr o danysgrifwyr SMS newydd yn ‘optio i mewn’, gallwch anfon negeseuon testun swmpus i’r gynulleidfa honno gyda chyhoeddiadau, newyddion a bargeinion e.e. “defnyddiwch y cod DIOLCH i gael gostyngiad o 20% ar eich archeb.”

  • Defnyddiwch ddiferiad (drip-feed) awtomatig SMS.

Mae ymgyrchoedd trwy ddiferiad yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich cwsmeriaid yn parhau i gymryd rhan pan y’ch chi’n anfon cynnwys gwerthfawr a pherthnasol atynt.

Gallwch ddefnyddio eich rhestrau cyswllt cynyddol i:

  • Groesawu cwsmeriaid newydd
  • Gadw diddordeb yn y brand
  • Ysgogi’r defnydd o atebion soffistigedig
  • Ysgogi awtomeiddio i gyfathrebu ar raddfa fawr.

Er enghraifft, pe baech yn anfon cwpon mewn ymgyrch o’r fath, gallech anfon cwpon â gostyngiad 5% yn syth ar ôl i’r tanysgrifiwr gofrestru, yna cwpon â gostyngiad 10%  ar ôl tair wythnos, ac yna 20% ar ôl dau fis. Po hwyaf y byddant yn ymgysylltu â chi, po fwyaf yw’r elw posibl ar eich amser a’r arian a fuddsoddir yn yr ymgyrch.     

  1. Beth am gystadleuaeth?

Gallwch annog cwsmeriaid i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth drwy decstio allweddair penodol.  Unwaith eto, mae hon yn dacteg hyrwyddo safonol.

Gallwch ddewis enillwyr o blith y rhai sy’n optio i mewn. Gallwch hefyd gynnig gwobr yn llai i bob person sy’n anfon yr allweddair. Gallwch ei ddefnyddio fel cyfle i groeshyrwyddo. Mae cynnal cystadleuaeth tymor byr yn strategaeth tecstio twf gydnabyddedig wrth geisio ennill mwy o danysgrifwyr SMS.

Ystyriwch gystadleuaeth neu roddion gallwch ei wneud bob blwyddyn neu bob chwarter sy’n gysylltiedig â gwyliau, penblwyddi ac achlysuron arbennig.  I gael mwy o danysgrifwyr SMS, bydd cwsmeriaid yn cystadlu drwy decstio’r allweddair hud i’ch rhif ffôn SMS neu’ch cod byr. Cadwch mewn cof yr awgrymiadau isod er cynhyrchu’r ymateb gorau posib:

  • Crëwch ymdeimlad o frys 
  • Defnyddiwch bartner i groes-hyrwyddo
  • Gosodwch y bar yn isel er mwy annog ymateb
  1. Anfonwch Negeseuon Atgoffa a Chadarnhau drwy Neges Destun

Gall SMS fod yn ffordd gyfleus o gadw mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau a busnesau.

Mae hyn yn arbennig o wir am negeseuon byr a gwerthfawr a allai fynd ar goll ar e-bost,

megis:

• Atgoffa am apwyntiadau

    • Atgoffa i anfonebu

    • Cadarnhau archebion

Enghraifft: “Mae eich apwyntiad yfory am 3:00 pm.”

Mae negeseuon fel hyn yn bwysig gan eu bod yn fwy tebygol o gael eu gweld.

Mae nifer cynyddol o fusnesau yn darparu ar gyfer gofynion eu cwsmeriaid drwy roi nodyn atgoffa anfonebu ynghlwm wrth neges destun. Mae diweddariadau SMS yn llai tebygol o gael eu hanwybyddu na negeseuon a anfonir at flwch e-bost sy’n llawn dop ac yn aml o’r herwydd yn cael eu hanwybyddu.  Mae’r un mor hawdd i fusnesau awtomeiddio y negeseuon ar SMS ag ydyw trwy e-bost.

  1. Casglwch Adborth a Data.

Ry’ ni’n argymell diweddu â neges groesawgar neu alwad i weithredu gan ddefnyddio arolwg neu bôl piniwn.  Mae hyn yn ein cyfeirio yn ôl at Bwynt 2 a’r ffaith bod marchnata trwy ddiferiad yn rhoi sianel i fusnesau gael adborth mewn amser go iawn wrth gwsmeriaid neu ddarpar gwsmeriaid.  O greu arolwg o fewn eich ymgyrch, byddwch yn dysgu mwy am yr unigolyn a’r hyn gallwch gynnig iddo/iddi.

Mae’n hanfodol gwneud pethau’n hwyl e.e. ychwanegu wyneb yn gwenu. Cofiwch fod pobl yn cyfathrebu ac yn sgwrsio’n wahanol iawn mewn SMS na phe bawn nhw’n ysgrifennu neges e-bost. Os ydych yn derbyn ymateb cadarnhaol i gwestiwn mewn arolwg gallwch ofyn am adolygiad ar Facebook, Yelp, neu beth bynnag yw’r platfform sy’n hanfodol i’ch busnes.

  • Anfonwch Negeseuon Byr a Diddorol

Os ydych yn derbyn llawer o negeseuon e-bost mewn un diwrnod gan gwmni, mae’n naturiol ysytried rhain yn sbam.

Ond, ar y llaw arall, pan fyddwch yn sgwrsio ag un o’ch cysylltiadau Facebook Messenger neu’n defnyddio SMS, nid yw nifer y negeseuon yn cael eu hystyried yn negyddol. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y neges yn tueddu i fod yn fyrrach. Wrth gyfathrebu drwy sgwrs, cyfyngwch y llythrennau i 200. Mae brawddeg gyflym a galwad i weithredu neu gwestiwn, er enghraifft, yn gweithio’n wych. 

A oes angen help arnoch gyda’ch strategaeth farchnata?  Oes angen mireinio eich negesuon cyfathrebu neu  a oes angen ail-gynllunio eich  llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu wefan?

Am wybodaeth bellach cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://anturcymru.org.uk/cy/gwasanaethau-ymgynghorol/

Neu holwch am ein Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Busnesau Cymreig trwy siarad â Dai Nicholas, ein Rheolwr Marchnata ar 07736542280.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction