Tipiau Marchnata Instagram.

Tipiau Marchnata Instagram.

Instagram yw un o’r sianeli cyfryngau cymdeithasol mwyaf yn y byd. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu stori ffotograffig eu bywydau at ddefnydd personol a busnes. Mae’n gipolwg ar y tueddiadau a’r newyddion diweddaraf.

Mewn termau busnes yn unig, mae’n mynd law yn llaw â Facebook a gall fod yn llwyfan da ar gyfer rhannu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau busnes gan gynnig cysylltiadau hyrwyddo gwerthfawr.

Dyma rai ystadegau diddorol:

Mae gan Instagram tua 28.81 miliwn o ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig (DU). Y gyfran fwyaf o ddefnyddwyr yn unigolion rhwng 25 a 34 oed, sef 30.9% ac yna y rhai hynny o fewn y categori 18 i 24 oed’.

Ffynhonnell: Statista Research Department, Hydref 15, 2021 yng Ngorffennaf 2021.

Dyma rai tipiau cyflym ar gyfer hyrwyddo ar Instagram:

  1. Ysgrifennwch fywgraffiad i dynnu sylw.

Mae’n cymryd llai nag eiliad i rywun ffurfio barn am eich brand ar lein. Mae’r argraff gyntaf felly yn holl bwysig ac y mae eich proffil a’ch bywgraffiad Instagram yn allweddol i hyn.

Bydd eich bywgraffiad hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y camau bydd eich cynulleidfa’n eu cymryd wedi iddynt lanio ar eich proffil. Efallai y byddant yn penderfynu eich dilyn, yn dymuno gweld mwy o’ch cynnwys neu glicio ar yr ôl-ddolenni i’ch gwefan.

Dylai eich bywgraffiad Instagram:

  • Gyfeirio ychydig at eich busnes, eich gwasanaethau a’r hyn ry’ chi’n gwneud yn dda.
  • Apelio at eich cynulleidfa darged.
  • Trosglwyddo tôn a llais eich brand yn syth er mwyn cysylltu â’ch cynulleidfa.

2. Cynhwyswch linciau ac ôl-ddolenni.

Gall cyfrifon Instagram ddefnyddio dolenni i yrru traffig i’r hafan neu i dudalen berthnasol ar y wefan.  Gelwir rhain yn ôl-ddolenni.

Gallwch hefyd greu tudalennau arbennig wedi eu cysylltu â’ch proffil Instagram e.e.darnau o gynnwys sy’n benodol neu’n berthnasol i ymgyrch marchnata sy’n rhedeg ar y pryd.

3. Crëwch broffil Busnes Instagram  – mae’n wahanol i broffil personol.

Mae Instagram wedi cyflwyno offer busnes i helpu cwmnïau i ddeall eu dilynwyr a thyfu eu busnesau drwy Instagram. Yn union fel Facebook a LinkedIn, mae gan Instagram opsiynau proffil personol a busnes. Wrth greu neu drosglwyddo i broffil busnes, bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth ychwanegol am eich busnes e.e. bydd angen i chi ychwanegu rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, a chyfeiriad eich busnes.

4. Defnyddiwch ddelweddau proffil effeithiol.

Rhaid i’ch llun proffil gael effaith ar y gynulleidfa’n syth ac amlinellu’r hyn ry’ chi’n ei wneud yn dda.  Mae’n rhaid i’ch cynulleidfa allu ei adnabod yn hawdd pan fyddant yn ymweld â’ch busnes ar Instagram. I’r rhan fwyaf o fusnesau, gall hyn olygu dewis un o’r opsiynau canlynol:

  • Logo eich busnes.
  • Marc y logo (y logo heb eiriau).
  • Delwedd yn portreadu eich cynnyrch neu wasanaeth allweddol.

5. Gosodwch amcanion hyrwyddo busnes.

Wrth ddefnyddio unrhyw blatfform marchnata fel Instagram maen’n hanfodol gosod amcanion yr hoffech gyflawni.

Defnyddir Instagram gan amlaf ar gyfer cyflawni yr amcanion isod:

  • Gwerthu cynnyrch neu wasanaethau.
  • Cynyddu cynulleidfa.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth am frand.
  • Esbonio diwylliant a gwerthoedd y cwmni.
  • Rhannu newyddion am y busnes ac unrhyw ddiweddariadau.

6. Ystyriwch y lliwiau ry’ chi’n eu defnyddio.

Ceisiwch fod yn gyson wrth ddylunio eich postiadau gan ddefnyddio lliwiau brand corfforaethol diffiniedig a chadw at yr un steil ar gyfer eich lluniau a ffontiau. Mae Instagram yn blatfform estynedig o’ch busnes ac nid yw’n wahanol i’ch arwyddion, eich gwefan, na’ch hysbysebion.  Byddwch yn gyson.

7. Gwnewch y mwyaf o gapsiynau.

Mae Google yn hoffi capsiynau.  Maent yn dweud eich neges yn syth. Gallwch ddefnyddio  capsiynau i rannu straeon a meicro-flogio. Gallwch hefyd eu defnyddio i ychwanegu pennawd byr, sylw i neges neu i ofyn cwestiynau ac annog atebion.

8. Rhannwch negeseuon yn gyson.

Byddwch yn gyson a chyhoeddi’n aml.  Bydd eich cynulleidfa’n dysgu pryd i ddisgwyl cynnwys newydd. Adeiladwch ar eich cynnwys gan ddefnyddio amserlen gyson i wneud y mwyaf o’r cyfle i ymgysylltu. Mae’r rhan fwyaf o frandiau’n postio i Instagram bob dydd. Mae’r cyfartaledd tua 1.5 neges y dydd.

9. Dadansoddwch eich negeseuon mwyaf llwyddiannus.

Mae’n hanfodol cadw llygad ar yr hyn sy’n gweithio ar Instagram a’r hyn sydd ddim yn gweithio ac un o’r ffyrdd gorau o wneud hyn yw dadansoddi data Instagram i wirio pethau fel:

  • Gweld pa bostiadau sy’n cael y mwyaf o likes.
  • Nodi pa bostiadau sy’n cael yr ymateb gorau.

I arwain eich ymgyrch a mesur eich llwyddiant mae Instagram yn cynnig offeryn dadansoddi o fewn ei becyn busnes. Gwiriwch rhain i ddeall ymatebion y gynulleidfa.

10. Ymatebwch i sylwadau bob amser.

Os oes rhywun yn eich cynulleidfa yn cymryd yr amser i rannu eu meddyliau gyda chi, rhaid i chi ymateb iddynt a dangos eich bod yn gwrando. Bydd hyn yn eich galluogi i adeiladu eich cymuned ac annog teyrngarwch ac ymgysylltiad gwell i’ch brand.

11. Defnyddiwch hashnodau i ledaenu cyrhaeddiad.

Mae hashnodau yn ffordd o gategoreiddio cynnwys ar nifer o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a chaniatáu i bobl sy’n defnyddio Instagram ddarganfod cynnwys a phwy i ddilyn. Mae ymchwil yn awgrymu bod neges â dros 11 o hashnodau yn tueddu i gael mwy o ymgysylltu.

Rhowch gynnig ar greu hashnod sy’n benodol i’r brand – hashnod sydd wedi’i greu’n benodol ar gyfer eich brand/cwmni gallwch chi a’ch cynulleidfa ei ddefnyddio.

12. Mae wynebau mewn postiadau yn tueddu i gael gwell ymateb.

Mewn astudiaeth ddiweddar edrychwyd ar 1.1 miliwn o luniau Instagram ar hap a darganfod bod lluniau sy’n cynnwys wynebau yn cael 38% yn fwy o likes a 32% yn fwy o sylwadau.

13. Archwiliwch Instagram Ads os oes gennych gyllideb.

Mae Instagram wedi optimeiddio ei blatfform hysbysebu ac erbyn hyn yn cynnig gwahanol fathau o hysbysebion. Gall hysbysebion fod yn seiliedig ar luniau, fideo neu hysbyseb carwsél. Gall rhain gynnig cyfle i’ch busnes rannu neges fanylach. Darllenwch am hysbysebion Instagram a gweld beth allen nhw ei gynnig o ran eich ymgyrchoedd chi a beth fyddai’r gost.

Mae gan Instagram hefyd y bonws o berthynas gyda Facebook sy’n galluogi hysbysebwyr i gyrraedd pobl ar Instagram yn seiliedig ar ddemograffeg a diddordebau, a’r wybodaeth sydd eisoes gan fusnesau am eu cwsmeriaid drwy Facebook.

Rhai syniadau i’w hystyried:

14. Cynhaliwch gystadlaethau a rhoddion.

Gall cystadlaethau fod yn ffordd dda o gynyddu ymgysylltiad ac adeiladu dilyniant ymhlith eich cynulleidfa.

Pan gaiff ei weithredu’n effeithiol, gall cystadlaethau gynnig manteision i fusnesau drwy gynyddu ymwybyddiaeth, cyrraedd cynulleidfa a helpu i adeiladu cymuned gryfach. Bydd hyn yn helpu i wella dilyniant ac ymgysylltu.

Dyma rai syniadau:

  • Cystadleuaeth rhannu lluniau: Gyda’r math hwn o gystadleuaeth, gofynnwch i’ch dilynwyr rannu llun gan ddefnyddio hashnod a thema benodol.
  • Cystadleuaeth sylwadau: Gyda’r math hwn o gystadleuaeth, gofynnwch i’ch dilynwyr i gymryd rhan trwy roi sylwadau ar eich postiadau neu hyd yn oed annog defnyddwyr i dagio ffrind yn y sylwadau fel ffordd o gymryd rhan — gall helpu i   gynyddu lledaeniad y postiadau.
  • Cystadleuaeth Likes:  Hon yw’r gystadleuaeth hawsaf mae’n siwr— y cwbl bydd angen gwneud yw hoffi eich llun.  Golyga hyn na fydd unrhyw rwystr i gael mynediad, a dim ond tapio ddwywaith fydd angen gwneud i gymryd rhan.

15. Newyddion a chynnwys cyfredol.

Cadwch lygad am yr hyn sy’n trendio yn y cyfryngau megis straeon newyddion perthnasol, diwrnodau cenedlaethol, neu ddathliadau mwy personol mae eich cwsmeriaid yn cymryd rhan ynddynt.

Gallwch fod yn rhan o’r drafodaeth drwy greu cynnwys perthnasol yn seiliedig ar eich cynnyrch a’ch gwasanaethau. Gallwch addasu’r hyn ry’ chi’n ei gynnig ac yna edrych ar ffyrdd arloesol o drosglwyddo’r negeseuon i sicrhau eu bod yn cael eu gweld.

16. Ydych chi’n adnabod busnes y gallech gydweitho â nhw?

Gallech geisio cydweithio â busnes tebyg arall ar Instagram a rhannu cynnwys a straeon am eich cynnyrch a’ch gwasanaethau.

Gall marchnata ar y cyd weithio’n dda pan fydd cynnwys da yn cael ei ddarparu ar y ddwy ochr ac mae’n ychwanegu gwerth at brofiad y gynulleidfa.

A oes angen help arnoch gyda’ch strategaeth farchnata?  Oes angen mireinio eich negesuon cyfathrebu neu  a oes angen ail-gynllunio eich  llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu wefan?

Am wybodaeth bellach cliciwch ar y ddolen ganlynol:

https://Ymgynghoriaeth Farchnata – Antur Cymru

Neu holwch am ein Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Busnesau Cymreig trwy siarad â Dai Nicholas,

ein Rheolwr Marchnata ar 07736542280.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction