Mae Menter Antur Cymru, sef enw newydd Antur Teifi, wedi ail-lansio ei frand a’i enw mewn gweminar sesiwn holi ac ateb drwy Zoom ar ei gwefan newydd.
Wrth ddathlu 40 mlynedd fel arloeswr cymorth busnes dwyieithog yng Nghymru, cyhoeddodd y fenter cymorth busnes ei henw a’i frand newydd yn y weminar cwestiynau amser cinio dan gadeiryddiaeth ei RG, Bronwen Raine, a oedd yn cynnwys panel o chwe arbenigwr diwydiant.
Gwnaed y penderfyniad i ail-enwi ar ôl ymchwil mewn ymgynghoriad â chleientiaid busnes a rhanddeiliaid, dynnu sylw, er bod y cwmni wedi bodoli yn rhan o’r dirwedd fusnes yng Nghymru ers dros 40 mlynedd, nid oedd yn cael ei ystyried yn frand ledled Cymru.
Roedd llawer a gafodd eu cyfweld fel rhan o’r ymarfer ymchwil yn anymwybodol fod Menter Antur Cymru yn cyflwyno llu o gytundebau Llywodraeth Cymru gan gynnwys cytundeb cymorth Busnes Cymru yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru. Cytundeb sy’n cynnig cymorth busnes wrth gychwyn, rhedeg a thyfu busnesau. Hefyd, nid oedd yr ymatebwyr yn ymwybodol bod Menter Antur Cymru yn cyflawni cytundeb Syniadau Mawr Cymru sy’n hyrwyddo entrepreneuriaeth ar gyfer pobl ifanc a chytundeb Sgiliau Newydd, Cychwyn Newydd.
Sefydlwyd y busnes yn 1979 fel Menter Gymdeithasol ac mae wedi arloesi cefnogaeth busnesau mewn trefi a’r economi wledig gyda dros 80 o staff ar draws y cytundebau. Mae’n gweinyddu cynlluniau i gefnogi twf ac arloesedd mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys Prosiect Fferm Wynt Gorllewin Brechfa, sydd yn y 18 mis diwethaf, wedi dyfarnu grantiau o £900,000 o gymorth gwledig o’r gronfa £3 miliwn y maent yn ei rheoli.
Mae Bronwen Raine, RG, yn crynhoi’r siwrnai hyd yma:
“Trwy’r ymchwil i gwsmeriaid a rhanddeiliaid gwelsom fod enw Antur Teifi yn rhoi’r argraff bod ein hol troed yn Nyffryn Teifi. Mewn gwirionedd, mae gan ein portffolio busnes, sy’n cynnwys Gwasanaethau TG Telemat, cytundebau a chwsmeriaid sy’n ymestyn ar hyd a lled Cymru ac sy’n cynnwys Y Senedd yng Nghaerdydd, cynlluniau Di-Wifr Trefi yng Ngwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, a Chytundebau Gwasanaethi ym mhob un o’r 16 sir.”
Dyfeisiwyd a dyluniwyd y brand a’r wefan yn fewnol gan y tîm Gwasanaethu Ymgynghori Busnes sy’n darparu gwasanaethau masnachol i’r gymuned fusnes ledled Cymru.
Gweler: www.anturcymru.org.uk