Mae Gwasanaethau TG Telemat yn ail-frandio ac yn cynnig gwasanaeth gweithio o bell a chysylltedd gwledig

Mae Gwasanaethau TG Telemat yn ail-frandio i osod ei hun o fewn portffolio busnes Menter Antur Cymru.

Mae Gwasanaethau TG Telemat yn dilyn ôl troed Menter Antur Cymru trwy hyrwyddo ei wasanaethau dwyieithog i Gymru gyfan. Roedd yn amlwg o ymchwil cwsmeriaid a rhanddeiliaid nad oedd llawer yn y byd busnes yn gwybod ei fod wedi sefydlu cynlluniau Di-Wifr Tref mewn 22 o drefi ledled Cymru, ac nid oeddent yn ymwybodol bod Telemat yn ddarparwr gwasanaethau TG blaengar i fusnesau bach a chanolig mewn ardal helaeth gyda amrywiaeth o sectorau busnes ledled Cymru.

telemat rebrand

Mae’r trefi gan gynnwys Caernarfon, Caerfyrddin, Aberteifi a Conwy wedi mwynhau pecynnau sydd, ynghyd â darparu cysylltedd Di-Wifr, y mae datrysiadau Telemat yn cynnig y gallu i gynaeafu data hanfodol wrth olrhain cwsmeriaid, arferion siopa a chyfleoedd allweddol i farchnata ymwelwyr i ymweliadau dychwelyd gan ddarparu mwy o brofiad siopa lleol cynaliadwy. Mae hyn yn hanfodol yn y byd ol-COFID-19 gyda threfi yn sbardun annatod wrth ail-wefru’r economi wledig.

Mae Gwasanaethau TG Telemat wedi sefydlu cytundebau CLG gyda y Senedd, Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, ymhlith eraill, a llawer o wasanaethau busnes mewn sectorau fel marchnadoedd cyfrifon a chyfreithiol. Mewn gwirionedd mae’n gwasanaethu dros 100 o fusnesau bach a chanolig gyda CLG ledled Cymru.

Eglura Aled Davies, Rheolwr Gwasanaethau TG Telemat:

“Rydym wedi llwyddo i ennill llawer o gytundebau gwasanaethu mawr gyda llawer o gleientiaid sydd a gofynion aml-safle. Rwy’n credu bod ennill y rhain yn ganlyniad i’n profiad o ddarparu datrysiadau TG, cadw i fyny a thechnoleg flaengar a’r ffaith ein bod yn cynnal cefnogaeth busnes a busnes yn hollol ddwyieithog.”

Roedd ymateb Telemat yn gynharach eleni i argyfwng COFID-19 yn gyflym ac yn dreiddgar, gan drosglwyddo ei cwsmeriaid i weithio gartref a galluogi parhad masnachol trwy sefydlu systemau TG i alluogi swyddfa gefn, gwerthu a rhwydweithio tîmoedd. Cyflwynwyd y mwyafrif o atebion cyn pen 24 awr ar ôl i’r archeb ddod i mewn.

Ar hyn o bryd mae Telemat yn arwain y farchnad ym maes gweithio o bell, cysylltedd gwledig a phecynnau ar gyfer cymunedau, ffermydd a threfi i roi gwasanaeth blaengar i’r gyrwyr economaidd pwysig hyn a’u helpu i fasnachu yn y byd busnes drychol newydd yma.

Gweler: www.telemat.co.uk or phone 01239 712345

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction