Telemat – Cwmni Cefnogaeth TG sy’n edrych ar rai technolegau cyfredol yn ogystal â rhai sy’n dod i’r amlwg a all newid y ffordd ry’ ni’n gwneud busnes yn 2021 a thu hwnt

Wrth i effeithiau pell gyrhaeddol Covid-19 ledu ar draws y byd,  mae rôl technoleg newydd, arloesol yn newid y ffordd ry’ ni’n rhedeg ein busnesau ac yn amlygu ei hun mewn ffordd ac ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen.

  • Fe fyddwn yn gweld cynnydd mewn Rhyngwynebau a Rhyngweithio Digyswllt.

Golyga Covid bod technoleg sgrin gyffwrdd yn berygl bosib i iechyd a hynny oherwydd y potensial i ledaenu’r feirws yn gyflym.

Bellach mae’r wyneb, y retina a mathau eraill o adnabyddiaeth rithwir gan gynnwys rhyngwyneb llais yn ffurfiau o adnabod a ffefrir gan gwmnïau wrth iddynt chwilio am fynediad diogel a chyflym i’r sianeli trafodion ariannol, data a rhwydweithiau diogel.

  • Mi fydd ymdrech barhaus i gryfhau seilwaith digidol a gweithio o bell.

Os ydych yn darllen hwn mae siawns go dda eich bod yn gwneud hynny o’ch cartref neu yn ystod amser cyfyngedig mewn swyddfa draddodiadol. Er bod llawer o bobl yn disgwyl y bydd yna ddychwelyd graddol i’r swyddfeydd mae’n debygol, am y rhan helaeth o 2021, mi fydd y mwyafrif o weithwyr gwybodaeth yn parhau i weithio o bell am yr holl oriau gwaith neu’r mwyafrif ohonynt o leiaf.

Mae gwasanaethau fel Microsoft Teams a Zoom wedi dod yn flaenllaw ym mywyd gwaith pobl ac wedi profi’n llwyddiannus iawn.  Gallwch ddisgwyl y bydd technoleg newydd eto’n datblygu yn 2021 i wneud gweithio o bell yn fwy effeithlon a diogel. Bydd llawer o ffocws ar wella’r ffordd o weithio yn y cartref, ym myd addysg a hyd yn oed ym maes gofal iechyd.

  • Fe fyddwn yn gweld gwell monitro gan ddefnyddio IoT a Big Data.

Mae Di-Wifr mewn trefi ac ymddangosiad LoRaWan wedi dangos gwerth casglu data sy’n monitro ymddygiad pobl. Bellach mae’n beth cyffredin i dracio llif siopwyr trwy ganol trefi, defnyddio TG i ddeall arferion parcio yn ogystal â thracio gweithgareddau mwy cyffredin e.e. pan fydd angen gwagio biniau sbwriel.

Mae cyflenwad amserol o ddata yn darparu ffordd i ddal y gweithgareddau hyn a rhoi tystiolaeth a fydd yn sylfaen i wella gwasanaethau a phrofiadau mewn amser go iawn tra’n cynnig arbedion ar gostau gweithredol ac isadeiledd.

  • Deallusrwydd Artiffisial (AI) – yn barod i wneud bywyd yn haws.

Mae deallusrwydd artiffisial a ddisgrifir fel ‘efelychu prosesau deallusrwydd dynol gan beiriannau, yn enwedig systemau TG cyfrifiadurol’  (neu i gael peiriannau i feddwl fel bodau dynol), bellach yn cael ei gymhwyso at ddefnydd cyfathrebiadau busnes.

Mae’r maint o ddata electronig mewn e-byst, adroddiadau a gwybodaeth fasnachu y mae busnesau yn eu derbyn yn ddyddiol yn gwneud rheoli amser a blaenoriaethu tasgau yn anodd.   Mae hidlo data wedi dod yn ganolbwynt i ddatblygwyr meddalwedd er mwyn helpu rheolwyr busnes prysur i ddidoli’r wybodaeth allweddol y mae angen gweithredu arni.

Mae deallusrwydd artiffisial yma’n barod:  edrychwch ar Alexa gan Amazon a Siri gan Apple.  Mae Apple yn honni bod dros hanner biliwn o bobol yn defnyddio Siri.   Mae hynny’n lot o bobl sy’n siarad â dyfeisiau clyfar!

  • Mae’r ffordd ry’ ni’n siopa ar-lein ac yn rhyngweithio â phobl yn dod yn fwy soffistigedig sy’n golygu y bydd angen i bob busnes i ail feddwl.

Mae llawer o fusnesau yn gwerthu ar-lein, ond amlygodd Covid fodelau gwerthu ar-lein gwan iawn gan adael nifer fawr o’r busnesau hynny oedd heb ffordd o werthu  ar-lein heb lwybr i’r farchnad. Mae’r ‘normal newydd’ wedi golygu bod llawer wedi gorfod ailfeddwl eu presenoldeb ar-lein ac adolygu oblygiadau logistaidd masnachu rhithwir.

Yn llythrennol dros nos mae cyfarfodydd o bell a chyflwyniadau gwerthu, siopa rhithwir, ymarfer corff a theithiau rhithwir bellach wedi datblygu i fod y ‘normal newydd’ gan orfodi busnesau ym mhob sector i ailfeddwl am y ffordd maent yn gweithredu.

  • Mi fydd digwyddiadau rhithwir yn ceisio manteisio ar ffrydiau refeniw incwm sydd newydd eu darganfod.

Er bydd rhai digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ailddechrau ar ôl Covid, gall llawer o ddigwyddiadau megis cynadleddau ddioddef yn sgil mesurau i arbed arian ac yna arwain at sgil effeithiau pellach i’r sector lletygarwch.

Serch hyn, gall y gwersi a ddysgir o ddigwyddiadau rhithwir llwyddiannus fel cystadlaethau chwaraeon rhyngwladol arwain at fwy o gapasiti o ran gwylio rhyngweithiol ac yn eu tro arwain at ffyrdd eraill o greu incwm.

  • Mi fydd technoleg datgarboneiddio fel awtomeiddio grid a microgridiau yn helpu i symleiddio ffynonellau ynni ac arbed costau rhedeg busnes.

Mae awtomeiddio grid yn caniatáu i gwmnïau cyfleustodau gyflawni lefelau uwch o reolaeth a dadansoddi gan symud yn agosach at ddatgarboneiddio. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i gyfuno’r broses o gynhyrchu pŵer gwyrdd gyda digideiddio trwy ychwanegu synwyryddion at offer i gasglu data.

Mae microgridiau’n galluogi creu parthau lle mae ynni’n cael ei reoli’n annibynnol. Mae campysau prifysgolion, trefi a phentrefi bach, safleoedd diwydiannol a ffatrïoedd yn enghreifftiau da o gymunedau arloesol sydd wedi gwella eu perfformiadau amgylcheddol a lleihau costau.

  • Mi fydd rhwydwaith 5G yn cynyddu cyflymder prosesu.

Wrth i’r seilwaith sylfaenol wella ar draws y wlad, bydd 5G yn dod yn fwy cyffredin. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd mwy o ddyfeisiau 5G-wedi’u galluogi a gwelir chipsets 5G o fewn dyfeisiau mewn modemau a mwy o weithredwyr yn adeiladu ar ledaeniad 5G.

Bydd 5G yn hwyluso’r defnydd ar ddealltwriaeth artiffisial gan mai cyflymder prosesu cyfyngedig oedd un o’r rhwystrau rhag fabwysiadu’r dechnoleg hon. Bydd dyfeisiadau sy’n defnyddio dealltwriaeth artiffisial yn gallu derbyn a phrosesu data yn gynt o lawer gyda chyflymder trosglwyddo data 10 gwaith yn gyflymach na 4G.

  • Cerbydau trydan, robotiaid a’r defnydd o dronau yn barod i ddod â’r dyfodol i mewn i’r presennol.

Bu cryn syndod wrth i Amazon arloesi’r defnydd o dronau i ddosbarthu nwyddau ar-lein. Mae’r pandemig bellach wedi dod â’r arloesedd hwnnw at sylw pawb.

Mae Cerbydau Trydan yn ennill eu lle fel offer IoT defnyddiol. Yn ystod 2020, cynyddwyd argaeledd cerbydau trydan, ac mae’n edrych yn debyg y bydd yn parhau i dyfu. Er efallai na fydd unrhyw ddatblygiadau arloesol o bwys yn digwydd, dylem ddisgwyl cerbydau â gallu clyfar i barhau i esblygu yn 2021.

Er bod gan arweinwyr diwydiant obeithion uchel am gyflwyniad ceir hunan-yrru yn weddol fuan mae’r optimistiaeth wedi pylu ychydig.  Er hyn, bydd gwelliant ac esblygu ar y dechnoleg yn parhau yn 2021 a thu hwnt. Daw rhan o’r gwelliant hwn o gyfuniad o algorithmau gwell ond hefyd oherwydd synwyryddion IoT gwell.

Mewn adroddiad diweddar, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Korea Tech Today nodwyd bod Urban AirPort a gwneuthurwr y ceir o Korea, Hyundai, wedi datgelu cynlluniau ar gyfer y maes awyr symudol pop-up cyntaf yn y byd yn Coventry.  Disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2021. Wedi ei enwi’n Air-One, mae’n bosib ei adeiladu mewn ychydig ddyddiau a hwn bydd y maes awyr lleiaf erioed. Fe’i gynlluniwyd gan ddefnyddio dimensiynau cryno iawn sydd yn golygu y bydd modd ei adeiladu mewn trefi a dinasoedd i ganiatáu tacsis aer trydan a dronau i lanio er mwyn gwefru eu batris.

A’r peth olaf ….

Heb os, mae yna lawer i feddwl amdano ac mae nifer o berchnogion busnes eisoes yn gofyn y cwestiwn:  ydyn ni eisiau bod ar flaen y gad neu a ydyn ni eisiau cael ein gadael ar ôl yn sgil y chwyldro parhaus hwn mewn technoleg busnes a TG busnes.

Cefnogaeth Telemat TG.

Mae Gwasanaethau Cymorth Busnes TG Telemat yn darparu datrysiadau TG i fusnesau o bob maint ar draws Cymru. Mae gan Telemat dîm medrus iawn o dechnegwyr dwyieithog sy’n cynnig ystod o wasanaethau busnes TG ac ymgynghoriaeth TG i fusnesau.

Am adolygiad RHAD AC AM DDIM o’ch systemau cysylltwch â’r tîm ar 01239 712 345

[email protected]

www.anturcymru.org.uk

www.telemat.co.uk

 

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction