SYMUD YMLAEN YN DILYN CYFNOD TWF O 12 BLYNEDD

Yn dilyn cyfnod twf o 12 mlynedd mae Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi, Dewi Williams, yn gadael y cwmni.

Gydag 20,000 o fusnesau wedi’u cefnogi, 4,000 o swyddi hunan-gyflogedig a busnesau newydd wedi dechrau, ac 11,000 o swyddi newydd neu wedi eu diogelu, mae’r cwmni mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen i’r cam nesaf  o dwf.

Nawr yn ei 40fed blwyddyn, mae Antur Teifi wedi wynebu nifer o heriau wrth weithredu o fewn yr  hinsawdd economaidd cyfnewidiol sydd wedi bod ohoni. Mae’r cyfleoedd masnachol sydd wedi cael eu meithrin a’u datblygu dros y 12 mlynedd diwethaf wedi sicrhau bod sefyllfa Antur Teifi yn asiantaeth cymorth busnes mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn 1979.

Mae’r  broses o benodi Rheolwr Gyfarwyddwr newydd gyda’r uchelgais, y weledigaeth a’r brwdfrydedd i adeiladu ar y llwyddiant hwn, bellach wedi dechrau.

Mae manylion y rôl yn cael eu paratoi ar hyn o bryd a byddant ar gael yn yrstod yr wythnosau nesaf.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction