Cystadleuaeth grantiau i fusnesau bach

Mae SmallBusiness.co.uk wedi lansio cystadleuaeth grantiau newydd, gan ddyfarnu £5,000 bob mis i fusnesau sydd â throsiant rhwng £50,000 a £500,000.

Os ydych chi’n rhedeg busnes bach ac  yn gorfforedig ers o leiaf blwyddyn yn ôl, eich bod yn masnachu ar hyn o bryd a’ch trosiant rhwng £50,000 a £500,000, rydych chi’n gymwys i wneud cais.  Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi un ffurflen yn cynnwys gwybodaeth am eich busnes.

Yn eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosib am eich llwyddiannau hyd yn hyn.  Bydd defnyddio ffigurau ac enghreifftiau lle y bo’n bosib, fel twf trosiant, y cytundebau pwysig rydych chi wedi’u hennill, y partneriaethau rydych chi wedi’u llunio, neu unrhyw beth arall sydd wedi helpu eich busnes i symud ymlaen, yn helpu eich cais.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Small Business.

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction