Syrjeri’s Cyngor Busnes Antur Teifi yn Cefnogi Wythnos Cyngor Busnesau Bach
Fel rhan o Wythnos Cyngor Busnesau Bach, bydd Antur Teifi yn cynnal cymorthfeydd cyngor busnes ar gyfer perchnogion busnesau bach ac unrhyw un sy’n meddwl dechrau busnes.
Mae Antur Teifi wedi bod yn cefnogi busnesau ers bron i 40 mlynedd. Ry’ ni’n gweithio gyda llawer o fusnesau ar draws Cymru bob blwyddyn i’w helpu i lansio neu i dyfu a datblygu marchnadoedd newydd. Fel asiantaeth fenter hir-sefydledig ry’ ni’n ymwybodol o’r materion sy’n wynebu entrepreneuriaid a busnesau.
Ry’ ni’n gwybod mai un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu busnesau bach yw cyllid – naill ai’n ymwneud â gofynion y misoedd cyntaf i’r rhai hynny sy’n dechrau busnes neu i’r rhai hynny sy’n masnachu eisoes, sut i gael gafael â chyllid i symud i’r lefel nesaf. Credwn nad yw perchnogion busnes yn ymwybodol o’r opsiynau ariannu eraill sydd ar gael iddynt.
Yn ddiweddar, yn rhan o’n hymrwymiad i helpu busnesau ry’ ni wedi ehangu ein portffolio o wasanaethau ariannol. Bellach, gallwn ddarparu cyllid asedau, morgeisi masnachol, cyllid tymor byr a llawer, llawer mwy.
Yn ogystal â’n gwasanaethau ariannol newydd ein hunain, mae Antur Teifi hefyd yn darparu gwasanaeth cyngor am ddim ar ran Llywodraeth Cymru sef gwasanaeth Busnes Cymru yn ogystal â chynllun Start Up Loan Llywodraeth y DU.
Ry’ ni hefyd yn cynnig gwasanaeth Cynllunio Busnes, Gwerthu a Marchnata a Chymorth TG trwy ein tîm profiadol o dechnegwyr yn Telemat.
Dewi Williams yw Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi “Mae 99.3% o fusnesau yng Nghymru wedi’u cofrestru fel rhai bach a chanolig eu maint (SME). Maent yn asgwrn cefn economi Cymru ac yn chwarae rhan hanfodol wrth greu swyddi a datblygu cymunedau ffyniannus. Edrychwn ymlaen at y cyfle hwn yn ystod Wythnos Cyngor Busnesau Bach i gynnig ein cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig naill ai trwy ein gwasanaethau masnachol ein hunain neu drwy eu cyfeirio at gynghorwyr ein partneriaethau. Ry’ ni’n estyn gwahoddiad i unrhyw un a hoffai gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, neu drafodaeth anffurfiol am sut y gallwn ni helpu, i alw i mewn yn un o’n swyddfeydd ddydd Gwener. ”
Bydd y swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore hyd at 5.00 y prynhawn yn y lleoliadau canlynol:
Castellnewydd Emlyn, Parc Busnes Aberarad, Castellnewydd Emlyn SA38 9DB
12-14 John St, Llanelli SA15 1UH
Werndriw, 23 Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan SA48 7BH