Sid Madge yn sôn am farchnata ac adeiladu brand

Mae Sid Madge, un o bartneriaid creadigol Mad Hen yn y Bala, wedi dod yn siaradwr adnabyddus mewn gweithdai a digwyddiadau, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr i lawer o fusnesau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Sid wedi bod yn cynnal nifer o weithdai brandio ar ran Busnes Cymru gan roi cyfle i fusnesau feithrin dealltwriaeth drylwyr o’r angen i gynyddu gwerth cynhenid eu brand a chreu cysylltiad mwy emosiynol â’u cynulleidfaoedd.

Sid Madge
Sid Madge

Felly, er mwyn rhoi blas i chi o’r cyngor y mae Sid yn ei roi i gwmnïau drwy gyfrwng y gweithdai, gofynnwyd iddo nodi ei bum cyngor pennaf ynghylch cynyddu gwerth brand a gwella effeithiolrwydd gwaith marchnata.

  • Caiff dros £40 miliwn ei golli bob dydd yn y DU drwy weithwyr sydd wedi diflasu ar eu gwaith. Felly, sut y gallech chi feithrin mwy o ddiddordeb a brwdfrydedd ymhlith eich staff, eich cadwyn gyflenwi ac ati?
  • Ceisiwch neilltuo awr bob dydd ar gyfer addysg. Does dim gwahaniaeth a yw’n cialis ymwneud â’ch busnes ai peidio, bydd yr addysg honno’n werth pob munud.
  • Pa frandiau yr ydych yn eu hedmygu, a pham? Beth yr ydych yn ei hoffi amdanynt, a beth y gallwch chi ei ddysgu amdanynt a allai fod yn fanteisiol i’ch busnes chi?
  • Neilltuwch amser i wrando. Rydych yn gwybod eisoes beth yr ydych chi ar fin ei ddweud, ond dydych chi ddim yn gwybod beth yr ydych ar fin ei glywed. Mae gan fusnesau gwych sgiliau gwrando gwych.
  • Ceisiwch ystyried problemau yn gyfleoedd i arloesi. Yr unig broblemau sydd gennych yw’r problemau nad ydych wedi’u datrys. Ceisiwch hyrwyddo diwylliant o dderbyn bod problemau’n heriau. Byddwch yn agored i newid.

antur_teifi300pxLansiodd Antur Teifi ei hunaniaeth gorfforaethol newydd yn gynharach eleni, yn dilyn gwaith ymchwil gyda chwmnïau a rhanddeiliaid. Mae’r hunaniaeth yn adlewyrchu gyda balchder ein gwreiddiau yn Nyffryn Teifi a’n huchelgais i fod yn ddarparwr o safon ym maes gwasanaethau busnes ledled Cymru a thu hwnt.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction