Williams Marine

Busnes teuluol yw Williams Marine sydd wedi tyfu ac arallgyfeirio mewn amser byr ers iddo gychwyn yn 2018.  Mae’r busnes yn gweithredu o ran dal cregynbysgod a chynhyrchu cychod ar ddau safle yn Aberdaugleddau a Llanelli.

Mae’r gefnogaeth y mae Antur wedi’i roi yn cynnwys:

  • Cynorthwyo i greu Cynllun Busnes, Cynllun Marchnata a Rhagamcaniadau Ariannol er mwyn derbyn arian o’r banc.
  • Cydweithio gyda Chronfa Twf Sir Gaerfyrddin er mwyn dod o hyd i arian grant.
  • Cydweithio gyda’r cleient er mwyn cwblhau cais llwyddiannus i gronfa Loteri Sir Benfro.
  • Cyflwyniad i brosiect Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru.
  • Cefnogaeth gyda Digwyddiad Hyrwyddo Byw.
  • Cyflwyniad i gefnogaeth ymgynghorol arbenigol mewn Allforio, AD a Chynaliadwyedd.

Williams Marine Business Wales and Antur Cymru case study

Cefnogaeth Allforio Arbenigol

Cregynbysgod

  • Cefnogaeth masnachu rhyngwladol er mwyn edrych ar y posibilrwydd o allforio cynnyrch byw i Qatar, Ffrainc a Sbaen gyda chysylltiadau i gefnogaeth Llywodraeth Cymru ym mhob gwlad a dealltwriaeth o ddatblygu dulliau a phrosesau.
  • Cyflwyno partneriaid allweddol er mwyn galluogi rhoi’r broses allforio yn ei lle.

 

Cychod

  • Darparwyd cymorth allforio i farchnadoedd allweddol yn cynnwys UDA a Seland Newydd.
  • Mae allforio bellach yn rhan allweddol o’r strategaeth fusnes.

 

Adolygiad Cynaliadwyedd a Chefnogaeth

  • Cefnogir trwy ddatblygu Polisi Amgylcheddol a strategaeth fonitro briodol.
  • Darparwyd cyngor a chanllawiau ar reolaeth safle ac osgoi llygredd, yn cynnwys templedi a deunyddiau hyfforddi.
  • Cyfeirio at offer rhewi ynni effeithlon a chymhellion cysylltiedig â threth.

 

Cefnogaeth AD Arbenigol

  • Darparu canllawiau ar Delerau ac Amodau Cyflogaeth Ysgrifenedig a Llawlyfr Cwmni
  • Rhoi polisïau priodol yn eu lle, yn arbennig Polisi Cyfle Cyfartal a Chynllun Gweithredu, Polisi Iaith Gymraeg
  • Darparu gwybodaeth yn ymwneud â methodoleg recriwtio teg, gweithdrefnau anwytho a rheoli perfformiad
What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction