Yn 2017 gofynnwyd i Telemat gyflwyno astudiaeth dichonoldeb ar gyfer Tref Caernarfon i edrych ar y manteision a’r posibilrwydd o gynllun Wi-Fi tref. Darparwyd adroddiad wnaeth arddangos gwerth y cynllun fel gwasanaeth oedd yn ychwanegu gwerth i’r dref a hefyd fel modd pwerus o ddadansoddi data am nifer yr ymwelwyr â’r dref. Gan bod yn rhaid i bobl arwyddo er mwyn cael mynediad i’r gwasanaeth, mae yna hefyd elfen farchnata yn perthyn i gynllun o’r fath.
Yn dilyn cyflwyno’r astudiaeth dichonoldeb fe aeth Telemat ymlaen i ennill y tendr i osod a chynnal a chadw’r system sydd bellach yn cynnwys canran fawr o ganol tref Caernarfon, gan ddarparu Wi-fi am ddim i gannoedd o bobl bob dydd. Mae’r data mae’r system yn ei greu wedi bod yn allweddol yn mesur llwyddiant yr amrywiol ddigwyddiadau trwy fesur nifer yr ymwelwyr ar y dyddiau penodol hynny yn ogystal â llwyddiant strategaethau mwy tymor hir trwy fesur patrymau ymwelwyr yn dychwelyd i’r dref. Mae busnesau lleol hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) er mwyn creu cylchlythyron a darnau eraill o wybodaeth i’r rheni sy’n defnyddio’r Wi-Fi ac sydd am eu cynnwys er mwyn derbyn marchnata.