Sustainable Site Power (SSP)

Daeth Sustainable Site Power (SSP) at Antur Cymru cyn iddo gychwyn gyda chais i’w cynorthwyo ar ddylunio brand newydd a chyngor ar farchnata. Y busnes hwn yw’r cyntaf i ddod â system ynni oddi ar y grid i’r farchnad ‘The Solar Wedge’ ar gyfer y diwydiant adeiladu a sectorau eraill, a chefnogwyd trwy:

  • Sesiwn trafod syniadau er mwyn edrych ar strategaeth gyfathrebu
  • Ymchwil desg a byrddau awyrgylch er mwyn hwyluso creu briff i’r brand
  • Elfennau gweledol i’r brand
  • Dyluniad brand terfynol

 

Cafodd y ‘Solar Wedge’ ei ddyfeisio gan Reolwr Gyfarwyddwr cwmni ‘Stuart Thomas’, ac a ddatblygwyd o gynhwysyddion storio a chanddynt baneli solar ar y brif wyneb sy’n bwydo batri ac yn pweru generadur. Rheolir y systemau o bell a gellir eu monitro er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r pŵer a sicrhau bod y defnydd a wneir ar safle mor effeithlon â phosib tra ar yr un pryd darparu gwasanaeth trwsio 24/7 i sicrhau bod yna bŵer yn parhau ar y safle.

Mae SSP yn ei ail flwyddyn o fasnachu ac yn profi twf cyflym gydag unedau mewn defnydd ar draws y DU.

 

 

SSP Logo

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction