Splice Cast

Mae Splice Cast yn y busnes o achub bywydau!  Wedi’i leoli yn y Drenewydd, mae’r cwmni’n arbenigo yn bennaf mewn cynhyrchu ac ail-werthu cynhyrchion meddygol,

Mae eu hystod flaenllaw o offer canfod canser ceg y groth yn cynnwys nifer o frandiau eu hunain, yn ogystal â rhai dyfeisiau ychwanegu patent unigryw sy’n gwneud y gweithdrefnau’n fwy cywir.  Gwerthir eu holl gynhyrchion yn y DU ac Ewrop.

Fel cyflenwr cynhyrchion a dyfeisiau meddygol hanfodol, mae gan Splice Cast ran allweddol i’w chwarae fel partner mewn llawer o gadwyni cyflenwi fel y GIG.  Er mwyn cwrdd â rhwymedigaethau cytundebol, roedd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Duncan Morren â’r tîm yn teimlo bod Brexit yn peri nifer o fygythiadau posibl, yn bennaf i ofynion logistaidd a chyflenwi.

Roedd yr help a ddarparwyd gan Busnes Cymru yn cynnwys:

Mae Busnes Cymru wedi ein helpu i nodi a gwneud cais am gefnogaeth Grant Cydnerthu Brexit (£48,595) sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod gofod warws ychwanegol ar gael, sydd yn ei dro yn caniatáu inni ddal stociau mwy o ddeunyddai crai yn ogystal â nwyddau gorffenedig i’n hamddiffyn o effeithiau oedi ar y ffin a unrhyw ymyrraeth ar chyflenwadau.  Mae hwn wedi bod yn gam hanfodol i’n gwneud yn barod ar gyfer Brexit an anawsterau cyflenwi posibl, yn ogystal â chadw ein cwsmeriaid a’n cytundebau cyfredol.

Mae gan Splice Cast berthynas barhaus â Busnes Cymru ac maent yn cael cefnogaeth ac arweiniad gan ei bod hi’n anodd rhagweld sut y bydd Brexit yn troi allan, felly mae’n anodd cynllunio ar ei gyfer yn gyfatebol. Mae ganddyn nhw staff ychwanegol ac maent wedi cynnal ail shifft i ymdopi â’r cyfnodau galw uchel ac isel disgwyliedig gan sectorau preifat a’r GIG.

Yn ddiweddar, mae Splice Cast wedi uwchraddio eu darpariaeth TG i wneud archebu yn symlach ac yn gyflymach, a ddylai ei gwneud hi’n hawdd i sicrhau parhad o’r cyflenwad ar gyfer cwsmeriaid.  Mae’n amser ansicr, ond ma nhw’n ystyried Brexit fel cyfle i weithgynhyrchwyr y DU.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction