Roy’s Cafe

Cysylltodd perchennog Roy’s Cafe, Barir Eydan â Busnes Cymru ddiwedd 2019 pan oedd yn adnewyddu adfeilion caffi a oedd wedi bod yn segur ers 5 mlynedd ac a oedd unwaith yn ganolfan i’r pentref ar gyfer prydau brecwast a chinio.

Er bod gan Barir brofiad da mewn arlwyo, bu mewn partneriaeth busnes yn flaenorol, roedd angen bwrdd seinio a chyngor arno er mwyn hwyluso ei fenter unigol gyntaf.

Penodwyd Cynghorydd Busnes Cymru a rhoddwyd pecyn o gefnogaeth gyffredinol ar waith a oedd yn cynnwys:

  • Cyngor ar ei gytundeb les.
  • Cyfeirio at gymorth ar ei Seilwaith TG.
  • Cyfeirio at gyfleoedd cyllid.
  • Cyngor ar gynllunio cyllid.
  • Helpu gyda throsolwg o’i gostau cychwyn.
  • Help i lenwi Ffurflenni Mynegi Diddordeb ar gyfer cyllid grant.
  • Cyngor ar farchnata.
  • A chyfeirio ymhellach at weithdai ar Adnoddau Dynol, Marchnata a Chyllid.

 

Mae’r busnes bellach wedi’i adfer yn ganolfan i’r pentref sy’n gweini brecwast a chinio traddodiadol. Bu argyfwng COVID-19 yn broblem ond cafodd ei goresgyn o fewn dim wrth i Barir gynnig gwasanaeth tecawê ffonio a chasglu.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction