Parc Brownhill

Parc gwyliau i’r teulu yw Parc Gwyliau Brownhill yng Nghei Newydd, Gorllewin Cymru.

 

Yr her

Roedd y perchnogion wedi buddsoddi’n drwm mewn cynllun Wi-Fi i drigolion nad oedd erioed wedi gweithio’n iawn, roedd yn broblem gan bod y signal 3G a 4G yn wael yn yr ardal.

 

Gwasanaethau TG Telemat a’r datrysiad

Yn ystod y cyfarfod cychwynnol, daeth yn amlwg bod y perchnogion am gael system Wi-Fi syml i ddarparu cymaint o signal â phosib ar draws y parc cyfan, gyda’r un rhwydwaith yn darlledu ar draws yr ardal gyfan.

Roedd y perchnogion yn amharod i dalu swm mawr nes eu bod yn hyderus y byddai’r cynllun yn gweithio fel y dylai. Fel partner i Cisco Meraki, roeddem yn medru archebu caledwedd y gellid ei osod dros dro i brofi a oedd yn gweithio. Unwaith i hynny gael ei wneud roedd y perchnogion a’r trigolion yn gallu gweld bod y cynllun yn gweithio fel y dylai, archebwyd a chafodd y cynllun ei osod yn ei le.

Roedd y datrysiad yn cynnwys:

  • Adnabod y mannau gorau i osod yr offer er mwyn cael y signal gorau
  • Gosod naw man mynediad sy’n medru gwrthsefyll tywydd er mwyn cael mynediad i fwy na 30,000 metr sgwâr
  • Gosod mannau mynediad eraill yn y clwb i gael mynediad Wi-Fi
  • Cyfnod byr er mwyn profi ei fod yn gweithio’n iawn

 

Y canlyniad:

  • Agorwyd y cynllun Wi-Fi ym mis Mai 2019, gan brofi i fod yn llwyddiannus ar unwaith gyda channoedd o ddyfeisiau yn cysylltu yn ystod y dyddiau cyntaf. Dros gyfnod prysur yr haf, roedd uchafbwynt y defnydd yn fwy na 1TB yr wythnos wedi’i rannu dros gannoedd o ddyfeisiau
What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction