Natural Weigh Ltd

Chloe a Robin Masefield yw perchnogion Natural Weigh Ltd, y siop ‘ddiwastraff’ gyntaf yng Nghymru, sy’n rhoi dewis i bobl fynd i siopa gan osgoi deunyddiau pacio plastig.

Mae Natural Weigh yn cynnig cysyniad hyblyg ac ecogyfeillgar sy’n galluogi cwsmeriaid i lenwi eu cynwysyddion eu hunain gyda chymaint ag sydd eu hangen arnynt a thalu yn ôl y pwysau. Mae holl stoc Natural Weigh yn organig ac yn rhydd o ychwanegion er mwyn annog pobl i fyw bywyd mwy iach wrth gefnogi planed iachach.

Cynorthwyodd Rheolwr Perthynas Busnes Cymru Robin a Cloe wrth iddynt sefydlu Natural Weigh, gan eu cefnogi ac weithiau herio rhai o’u rhagdybiaethau a’u rhagolygon wrth iddynt ddechrau cynllunio eu busnes. Cynorthwyodd Cynghorydd Cynaliadwyedd Busnes Cymru nhw i fireinio eu polisi Cynaliadwyedd ac fe helpodd Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Busnes Cymru nhw i gynllunio a pharatoi ar gyfer recriwtio eu haelodau staff cyntaf. Aeth Chloe hefyd i weithdy Brandio a Marchnata Busnes Cymru.

Natural Weigh business support

Yn dilyn yr help a ddarparwyd gan wasanaeth busnes blaenllaw Llywodraeth Cymru, mae Natural Weigh wrthi’n recriwtio 2 weithiwr newydd.

Yn ôl Chloe Masefield: “Roedd ymgysylltu gyda Steve Maggs o wasanaeth Busnes Cymru yn drobwynt i ni o ran rhedeg ein busnes. Er i ni fod yn ei reoli yn iawn fel ag yr oedd hi, roedden ni’n ei chael hi’n anodd ystyried unrhyw newidiadau, fel cyflogaeth. Llwyddodd Steve, drwy wasanaeth Busnes Cymru ein rhoi mewn cysylltiad gydag unigolion a allai ein helpu gyda recriwtio, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein busnes, ystyried cyrsiau hyfforddi a’n helpu gyda chyngor marchnata. Mae wedi bod yn ffynhonnell wych ar gyfer cymorth, gwybodaeth a chysylltiadau ac rydym yn hynod ddiolchgar am wasanaeth Busnes Cymru.”

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction