Maggie’s Exotic Foods

Cafodd Margaret Ogunbanwo ei magu a’i haddysgu yn Nigeria. Sefydlodd ei busnes, Maggie’s Exotic Foods, mewn ymgais i ailgreu rhai o’r danteithion y cafodd yn y man lle y cafodd ei magu. Roedd angerdd Maggie dros ei threftadaeth Affricanaidd, ei hoffter o fwyd, coginio a gweld pobl ifanc, a menywod yn enwedig yn gwireddu eu potensial llawn yn ysbrydoliaeth i’w busnes.

Sefydlwyd Maggie’s Exotic Foods ym 1997 ac mae’n cynnig ystod o gynnyrch cartref gwreiddiol, cynhwysion egsotig, gan gynnwys cyfuniadau sbeis, arddangosiadau a dosbarthiadau coginio. Mae’r busnes hefyd yn darparu cynhwysion figan, llysieuol, heb gynnyrch llaeth a heb glwten, ac yn cynnig pecynnau anrheg fel bod y cwsmeriaid yn gallu dewis eu cyfuniadau o fwydydd egsotig eu hunain.

Dechreuodd Maggie ei menter busnes yng Nghymru ar ôl symud i bentref bach o’r enw Penygroes yng Ngwynedd gyda’i theulu yn 2007. Dechreuodd gynnig bwyd Affricanaidd wedi’i goginio mewn marchnadoedd ffermwyr lleol a chafodd ei hysbrydoli i agor caffi lleol yn ei chartref. Gyda chymorth ariannol a chyngor gan Busnes Cymru, lansiwyd ei menter fawr gyntaf yng Nghymru.

Maggies Exotic Foods business support

Mae Maggie wedi gweithio’n agos gyda Busnes Cymru trwy gydol ei thaith fusnes. Cafodd gefnogaeth gan Gynghorwyr Twf sydd wedi ei helpu i gael mynediad at grant a’i chyfeirio at gyfleoedd gan gynnwys teithiau masnach, gweithdai ar farchnata a gwerthu a strategaethau gwerthu. Rhoddodd y gefnogaeth yr hwb hyder a’r anogaeth a oedd angen ar Maggie i lwyddo.

Cafodd Maggie gefnogaeth gan fentor Busnes Cymru, a rannodd ei chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i ddarparu cyfeiriad a chefnogaeth er mwyn galluogi twf, ac arweiniodd hynny at dderbyn contractau newydd.

Erbyn hyn mae Maggie yn fentor Busnes Cymru ei hun.

Dywedodd Maggie: “Mae cynghorwyr Busnes Cymru wedi bod yn help mawr i fi, bob amser yn barod ac ar gael i helpu fy musnes i dyfu. Yn fwy diweddar, cefais fy nghyflwyno i’r cynllun mentora gwych sy’n cael ei redeg gan Busnes Cymru. Des i o hyd i fy mentor, Janet Matthews, ond rydw i hefyd wedi dod yn fentor busnes fy hun. Mae Janet wedi bod yn gweithio’n hunangyflogedig yn y DU ers nifer o flynyddoedd, ac mae ei gwybodaeth yn ddefnyddiol i mi fel person busnes yn y DU.

Rwy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r rôl y mae Busnes Cymru wedi chwarae yn fy natblygiad personol ac yn natblygiad a thwf fy musnes ers i mi ymsefydlu yng Ngogledd Cymru dros 10 mlynedd yn ôl.”

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction