Jessica Peck

Ni fydd busnes di-wastraff yr entrepreneur ifanc yn faich ar y blaned

Mae merch ifanc 24 oed o Gaerfyrddin wedi agor y siop ddiwastraff gyntaf erioed yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl cael cefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru.

Mae The Green Scoop yn hyrwyddo bod yn ddiwastraff drwy’r siop yng Nghaerfyrddin sy’n cynnwys cynwysyddion cyflenwi fel bod cwsmeriaid yn gallu dod â’u jariau eu hunain i’w hailddefnyddio drwy eu llenwi, gan ddileu’r angen am   ddeunydd pacio plastig.

Arferai Jessica fod yn glerc yn Ysbyty Glangwili, ond rhoddodd y gorau i’w gwaith i ddilyn ei nod personol o leihau faint o blastig yr oedd hi’n ei ddefnyddio. Pan ddechreuodd chwilio am gynhyrchion a oedd yn cael eu gwerthu heb becynnau pacio plastig, sylweddolodd nad oedd fawr o ddewisiadau amgen ar gael yn yr ardal.

Mae’r offer yn siop Jessica wedi cael eu creu gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau yr oedd modd eu hadfer â phosibl. Mae’r bwrdd a’r silffoedd wedi cael eu creu allan o baledi, mae’r cwpwrdd llyfrau wedi cael ei greu allan o hen estyll ac mae’r adran ffrwythau a llysiau wedi cael ei chreu allan o fyrddau sgaffaldiau a chratiau afalau. Mae’r cownter hyd yn oed yn cynnwys paneli pinwydd pyg sydd wedi dod o eglwys.

Dywedodd Jess: “Roedd yn anodd iawn ceisio defnyddio llai o blastig, ac yn aml roedd yn rhwystredig. Doedd dim modd hwyluso’r broses yng Nghaerfyrddin. Wedyn, fe wnes i ddarganfod siopau diwastraff mewn ardaloedd eraill, ac roeddwn yn teimlo’n awyddus iawn i agor fy musnes fy hun fyddai’n lleihau’r effaith rwy’n ei chael ar yr amgylchedd ac yn helpu pobl eraill yn y gymuned i wneud hynny hefyd.

Dechreuodd Jessica ei busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Wrth sôn am y gwasanaeth, dywedodd Jessica: “Roedd Syniadau Mawr Cymru yn help mawr, yn arbennig fy nghynghorydd busnes a oedd yn llawn gwybodaeth. Helpodd fi gyda fy nghynllun busnes a gydag ochr ariannol cychwyn busnes, gan fy mod yn cael hynny’n anodd i ddechrau. Hefyd, roedd yn help mawr i mi gael fy menthyciad i gychwyn busnes, a oedd yn golygu y gallwn i agor fy siop”.

Mae Jessica hefyd wedi manteisio ar rai o’r digwyddiadau y mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn eu cynnal ledled Cymru ar gyfer pobl fusnes newydd.

Ychwanegodd: “Rwyf wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau y mae Syniadau Mawr Cymru wedi’u cynnal, gan gynnwys digwyddiad rhwydweithio a Bwtcamp Busnes a oedd yn ddigwyddiad preswyl tri diwrnod, yn gynharach eleni. Cefais gwrdd â phobl ifanc o’r un anian yn ogystal â Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru sydd wedi llwyddo i redeg eu busnesau eu hunain. Dysgais gymaint, ac roeddwn yn teimlo’n llawn ysbrydoliaeth ac yn barod i gychwyn ar fy nhaith fusnes fy hun ar ôl gadael.”

Dywedodd cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru Jessica:

Sefydlodd Jessica ei busnes oherwydd ei bod hi’n dymuno newid a helpu pobl eraill i wneud yr un peth. Mae hi’n llawn brwdfrydedd dros redeg busnes a fydd yn arwain at newid yn ei chymuned. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddi wrth lansio ei busnes ac i’r dyfodol.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction