Huntingdon Fusion Techniques

Fe’i hadnabyddir yn eang fel arweinwyr byd ym maes weldio nwy a thechnegau puro, mae Huntingdon Fusion Techniques yn parhau i osod y safon ar draws y diwydiant. Yn 2020 bydd y busnes yn dathlu 40 mlynedd wrth iddo barhau i arloesi, dylunio a datblygu cynhyrchion newydd ar gyfer y farchnad fyd-eang.

Mae Antur Cymru a Busnes Cymru yn parhau i gefnogi’r busnes hwn ym Mhorth Tywyn er mwyn cyrraedd marchnadoedd rhyngwladol newydd ac er mwyn dod o hyd i nawdd i ddatblygu cynnyrch newydd mewn partneriaeth. Georgia Gascoyne, CEO a rheolwr gyfarwyddwr y DU, sy’n gyrru’r gwaith gan barhau i ehangu’r busnes, “rydym yn falch o’r cynnyrch a ddatblygir ac a gynhyrchir yma yng Nghymru, cynnyrch sy’n cael ei allforio dros y byd i gyd”. Esbonia Georgia “Mae busnesau’n teithio i’n swyddfeydd am hyfforddiant cynhyrchu ac eleni rydym wedi datblygu cyfleuster hyfforddi newydd er mwyn sichau ei fod y gorau yn y diwydiant.”

Mae’r gefnogaeth a roddwyd yn cynnwys:

  • Cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynnyrch newydd, bellach mae wedi’i ddylunio, ei ddatblygu a’i roi ar y farchnad.
  • Cefnogaeth i fasnachu’n rhyngwladol i farchnadoedd newydd ar draws y byd yn cynnwys Twrci, Awstralia a Siapan sy’n ychwanegol i’r gefnogaeth barhaol o fasnachu gyda 40 a mwy o farchnadoedd allweddol.
  • Cefnogaeth ar gyfer cysylltiadau busnes sydd eisoes yn bodoli a methodolegau marchnata.
  • Grantiau  a chysylltiadau yn ytsod yr argyfwng Covid-19 cyfredol.

Gofynnir i Georgia’n rheolaidd i roi darlithoedd a seminarau ar draws y byd mewn digwyddiadau allweddol ac arddangosfeydd a hi oedd enillydd Gwobr y Llywydd yn 2019 yng Ngwobrau Busnes Cymru ac yn aelod a sefydlodd grŵp llywio Fforwm Niwclear Cymru.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction