Fusion, Aberteifi

Sefydlodd Carman Yates Fusion yn Aberteifi yn 2017 gyda chefnogaeth Antur Cymru a Busnes Cymru. Datblygwyd hen dafarn a oedd bellach wedi’i chau yn fwyty a bar cyfoes, gan gynnig  y gorau sydd gan fwyd Asiaidd i’w gynnig gydag amrywiaeth eang o brydau cartref wedi’u hysbrydoli gan ryseitiau teuluol clasurol o Hong Kong.

Mae’r fwydlen hefyd yn cynnig prydau bwyd Coreaidd, Thai a Japaneeg wedi’u paratoi gan y teulu sy’n cefnogi Ching Man Yates (adwaenir fel Carman); entrepreneur ifanc benywaidd a mam, a benderfynodd symud i Orllewin Cymru o Gaerdydd i sefydlu’r bwyty.

Roedd y gefnogaeth gan Busnes Cymru yn cynnwys:

  • Delwedd a diwyg y fwydlen.
  • Strategaethau prisio.
  • Cefnogaeth o ran deddfwriaeth a hylendid bwyd.
  • Cefnogaeth gyda dyluniad y brand.
  • Cynllunio presenoldeb ar y Cyfryngau Cymdeithasol.
  • Cynllunio busnes.

 

Mae Fusion (Aberteifi) yn cynnig ystod eang o gynnyrch lleol o Gymru, gan ddarparu cyfuniad o’r rhyngwladol a’r lleol.

Er bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn rhan o’r tîm, derbyniodd Carman gyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod yr iaith wedi’i hintegreiddio’n llawn yn y gwasanaeth, nodwedd bwysig yn y gymuned leol.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction