Pentref yng Ngheredigion tua 4 milltir o Aberteifi yw Felinwynt. Er gwaethaf hyn, mae cyflymder y band eang i drigolion yn araf iawn gyda chyflymder lawrlwytho ar gyfartaledd tua 2 Mpbs.
Yn ffodus mae’r 3G a’r 4G yn y pentref yn wych sy’n golygu ein bod wedi medru cymryd mantais o gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru sydd ar gael i bobl lle mae’r band eang yn wael er mwyn gwella’r gwasanaeth. Hyd yn hyn rydym wedi cynorthwyo:
- Dwsin o gartrefi yn Felinwynt i wella cyflymder eu band eang o 2 Mbps i gymaint â 40 Mpbs trwy osod erial 4G allanol a llwybrydd 4G tu fewn. Fel arfer telir am gostau cyfalaf gosod yr offer gan y grant ac yna disgwylir i’r cartref dalu’r costau rhentu misol am y band eang ar gost o £22 y mis yn Felinwynt am ddata diderfyn.
- Byddai’r gwaith o osod datrysiadau i fusnesau a leolir yn y pentref ac yn fwy diweddar i bobl broffesiynol yn gweithio o adref yn ystod yr argyfwng Covid–19, wedi bod yn llawer iawn anoddach oni bai bod y datrysiad hwn yn ei le.
Mae’r datrysiad hwn yn un ymarferol i lawer o leoliadau ar hyd a lled Cymru lle mae’r band eang yn wael – os hoffech chi i ni edrych i weld beth sydd ar gael yn eich ardal ac a ydych yn gymwys i dderbyn grant, yna cysylltwch.