Cameron Reardon

Entrepreneur yn ei arddegau gyda’i fryd ar fusnes yn mentro gyda menter ym maes pryfeteg

Mae person ifanc 17 oed o Lanelli gydag uchelgais i ddilyn ôl troed ei eilun, David Attenborough wedi agor siop bryfed gyntaf Cymru, gan droi ei ddiddordeb mewn pryfed pan yn blentyn yn fusnes.

Sefydlodd Cameron Reardon, sydd yn ei flwyddyn olaf yng Ngholeg Sir Gâr, ei siop bryfed moesegol, Bug Box UK pan oedd ond yn 16 mlwydd oed, ar ôl nodi bwlch yn y farchnad yng Nghymru.

Yn ogystal â gwerthu pryfed egsotig, mae Bug Box UK yn cynnig sesiynau gafael mewn pryfed, ‘dosbarthiadau dychryn’ ac yn cynnig tri chynllun addysgol ar gyfer disgyblion cynradd, uwchradd a chweched dosbarth, gan deilwra ei weithdai i adlewyrchu’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu’r boblogaeth bryfed.

Lansiwyd Bug Box UK ochr yn ochr ag astudiaethau Cameron, sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr ar hyn o bryd, cyn cychwyn gradd mewn Busnes a Marchnata ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn rhedeg fy musnes fy hun ac yn cael cwrdd â nifer fawr o wahanol fathau o bobl bob dydd. Mae’n wych cael bod yn fos arnaf fi fy hun hefyd. Fel hyn rwy’n gallu gweithio’n galed er mwyn llwyddo a pharhau i astudio.”

Ychwanegodd Cameron: “Gweithiodd Syniadau Mawr Cymru gyda mi i ddatblygu fy nghynllun busnes, ac roedd bob amser yn cynnal amryw o ddigwyddiadau gwych ar gyfer pobl fusnes ifanc. Es i i weithdy allforio yn Llanelli, ac roedd wir yn agoriad llygad. Helpodd y digwyddiad fi i ddeall sut y gallwn allforio i wahanol wledydd yn y dyfodol.”

Yn ôl cynghorydd busnes Cameron:

Dim ond 17 oed yw Cameron, ac mae’n dal i astudio yn y coleg. Ond er hyn, mae’n llwyddo i redeg busnes llwyddiannus hefyd. Mae’n enghraifft wych o entrepreneur ifanc uchelgeisiol a phenderfynol, ac alla i ddim aros i weld sut bydd Bug Box UK yn tyfu yn y dyfodol.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction