Beyond Breakout

Daw profiad ystafell ddianc unigryw newydd i’r Drenewydd gyda chefnogaeth Busnes Cymru.  Yn wyneb diswyddo ac yn awyddus i ddefnyddio eu profiad o ddatblygu gemau pwrpasol, penderfynodd Lorna Morris a Jo Woodall gychwyn eu busnes ystafell ddianc eu hun yn y Drenewydd.  Lansiwyd Beyond Breakout ym mis Ionawr 2020 gyda chefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Penodwyd Rheolwr Perthynas o fewn Busnes Cymru i helpu Lorna a Jo i ddatblygu’r syniad cychwynnol a cefnogi’r entrepreneuriaid gyda’r canlynol:-

  • Creu Cynllun Busnes
  • Cefnogaeth marchnata a rhagolygon ariannol
  • Helpu i sicrhau pecyn cyllid o nifer o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes a cronfa Banc Nat West ar gyfer Menywod mewn Busnes.
  • Cefnogaeth bellach i ddod o hyd a sicrhau yr eiddo cywir ar gyfer y busnes, ynghyd â thrafod telerau ac amodau prydles.

 

Roedd cefnogaeth Busnes Cymru yn golygu’r canlyniadau canlynol:-

  • Busnes cychwyn newydd llwyddiannus.
  • £10,000 wedi’i sicrhau gan y Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes.
  • Creu 2 swydd yn cyfrannu at economi Cymru.

Yn fwy diweddar, mae Rheolwr Perthynas Busnes Cymru wedi bod yn rhagweithiol ac yn amhrisiadwy wrth geisio dod o hyd i’r help busnes i oroesi’r achosion o COFID-19.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction