Busnes bwydydd arbenigol yw ‘Babita’s Northern Indian Cuisine’ sydd yn draddodiadol wedi bod yn gweithredu fel busnes bwyd stryd ond gan hefyd werthu pecynnau o sbeisiau cymysg. Gweithiwyd gyda ‘Babita’s’ trwy Brosiect Catalydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cychwynnwyd ar y gwaith cyn y cyfnod clo a pharhawyd i gynnig cyngor yn ddi-dor trwy gydol y misoedd dilynol a chreu:
- Model busnes newydd, a ddyluniwyd yng ngoleuni argyfwng COVID-19.
- Ymgymerwyd ag adolygiad o’r brand cyfredol.
- Cynigiwyd cyngor ar farchnata a deunydd pecynnu.
- Cwblhawyd cysyniadau ar gyfer dylunio brand.
Mae ‘Babita’ bellach wedi newid o werthu ‘bwyd stryd’ i fod yn ‘Northern Indian Cuisine’ a chychwyn gwerthu ar y farchnad prydau parod gan werthu trwy hybiau bwyd ac ar lein.