Daeth ‘Afon Mêl Meadery’ sy’n rhan o Fferm Fêl Cei Newydd at Antur Cymru a Dai Nicholas ein Hymgynghorydd Marchanata am gyngor brandio ar gyfer y ‘Session Mead 5%’, sef medd pefriog y cyntaf ar y farchnad; medd y mae Sam Cooper a’r tîm yn ei ddatblygu, ac mae’r prosiect yn cynnwys:
- Dylunio cysyniad logo newydd ar gyfer cynnyrch Afon Mêl
- Creu briff i’r brand a bwrdd awyrgylch brand ar gyfer label y Medd Pefriog 5%
- Gwerthuso’r farchnad a’r gystadleuaeth
- Creu deunydd gweledol i’r brand sy’n arbrofi gyda ‘thema’r lleuad’ y mae’r cleient wedi’i greu ac yn seiliedig ar ymchwil hanesyddol
- Ymgysylltu â Dylunydd Graffig er mwyn derbyn cyngor ar y gwaith celf terfynol, er mwyn gwneud defnydd o’r cysyniad gweledol a chael y gorau o’r dylanwad a’r effaith gall y dyluniad terfynol ar label y botel ei gael ar y silff
- Cyngor o ran y manylion ar y label o ran rheoliadau cyfreithiol a masnachol
Mae’r brand bellach wedi’i lansio i dderbyniad gwych gan y farchnad.