Gair o gyngor gan Nikki Channon, MudTrek a Marc Brown, Sporting Hares
Gair o gyngor gan
Marc Brown, Sporting Hares
Dechrau busnes
Wrth ddechrau busnes, mae’n hawdd gadael i’r pethau bach fynd â’ch sylw. Canolbwyntiwch ar yr elfennau allweddol sy’n berthnasol i’ch busnes i ddechrau. Treuliwch amser ar eich cynllun busnes yn hytrach na chanolbwyntio ar greu cardiau busnes ffansi.
Dylech ddisgwyl yr annisgwyl
Mae busnesau da’n addasu i newidiadau yn y farchnad. Mae busnesau gwych yn addasu iddynt ac yn dysgu oddi wrthynt. Byddwch yn barod i fod yn hyblyg pan fyddwch yn wynebu newidiadau.
Gweithio o 9 i 5
Dyw hynny ddim yn bosibl pan fyddwch chi’n rhedeg busnes. Eich busnes fydd eich bywyd; bydd yn rhaid eich bod yn dwlu ar eich busnes a’ch cynnyrch. A pham lai? Chi sydd wedi’i greu. Byddwch yn falch ohono a manteisiwch ar bob cyfle i sôn amdano wrth bawb!
Dysgwch ddirprwyo
Efallai eich bod chi’n gallu gwneud y cyfrifon, y marchnata, y gwerthu, y dylunio a’r profi. Ond rywbryd, wrth i chi dyfu, fyddwch chi ddim yn gallu gwneud y cyfan ar yr un pryd i safon uchel. Dysgwch ddirprwyo. Tîm yw eich busnes, a dylech ei redeg fel tîm.
Gair o gyngor gan
Nikki Channon, MudTrek
Gwnewch yn fawr tramadol o’ch sgiliau
Meddyliwch pa fath o berson ydych chi. Does dim diben mynd i faes lletygarwch os nad ydych chi’n mwynhau cwmni pobl.
Ymchwiliwch, ymchwiliwch, ymchwiliwch
Gwnewch lawer iawn o waith ymchwil i’r farchnad ar gyfer eich cynnyrch, a’r potensial i’r farchnad dyfu. Pwy arall sy’n gwneud hyn? A ydynt yn ei wneud yn dda?
Gwnewch yn fawr o gyfryngau cymdeithasol
Dydw i ddim yn credu y byddai MudTrek wedi llwyddo heb Facebook a Twitter. Dyma’r ffordd orau o rannu gwybodaeth.
Defnyddiwch eich cysylltiadau
Oes gennych chi ffrind sy’n gyfrifydd? Oes gennych chi gymydog cyfeillgar sydd â phrofiad o farchnata? Os ydych
chi’n sefydlu busnes, bydd arnoch angen yr holl help y gallwch chi ei gael – gofynnwch am gymaint o gyngor ag sy’n
bosibl.
Chwiliwch am gyllid
Chwiliwch am gynlluniau benthyca posibl neu grantiau ar gyfer busnesau newydd yn eich ardal. Fe ffoniais i fy nghyngor lleol i holi ynghylch grantiau, ac roedd yr arian a gawsom yn sgîl hynny’n golygu y gallem orffen adnewyddu llety ar gyfer ein hymwelwyr.
Busnes Cymru
Cysylltwch â Busnes Cymru i ofyn am gyngor. Cawsom ein tywys gan ymgynghorydd penodedig drwy’r broses gymhleth o gyflwyno ceisiadau a pharatoi cynlluniau busnes er mwyn cael cyllid i wireddu ein cynlluniau.