Rhowch Kickstart i’ch busnes yn dilyn y cyfnod clo.

Cynllun Kickstart

Penodwyd Toni Godolphin yn Weithredwraig ar gynllun newydd Kickstart. Bu’n Ymgynghorydd busnes a chyn hynny bu’n gweithio o fewn y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae’n angerddol dros helpu pobl ifanc i sicrhau gwaith, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, pan mae lles pobl mor bwysig a dod o hyd i swyddi yn heriol.

Dywedodd Toni “Pan ddaeth y swydd yn rhydd, roeddwn yn gwybod yn syth bod rhaid i fi o leiaf rhoi cynnig arni. Mae’r  cynllun Kickstart yn gyfle gwych nid yn unig i  bobl ifanc i ennill profiad gwaith gwerthfawr ond hefyd i gyflogwyr  dderbyn cefnogaeth ariannol i helpu gyda staffio wrth ddod allan o COVID, a’r gobaith o ennill aelodau staff hirdymor i yrru busnes yn ei flaen.”

Beth yw’r Cynllun Kickstart?

Mae Menter Antur Cymru yn bartner cyflenwi’r Cynllun Kickstart sydd newydd ei lansio. Gall cyflogwyr lleol elwa o’r cynllun trwy gynnig cyfleoedd gwaith â thâl 6 mis i berson ifanc.  Mae’r cynllun hwn gan y Llywodraeth yn darparu cyfleoedd wedi’u hariannu’n llawn er mwyn i gyflogwyr roi profiad gwaith i bobl ifanc tra’n caniatáu iddynt ddatblygu prosiectau a gweithgareddau newydd.

Ydych chi’n gymwys?

Gall Cwmnïau Cyfyngedig sydd â dwy flynedd o gyfrifon masnachu wneud cais.

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau swyddi newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.

Rhaid i’r rolau rydych yn gwneud cais amdanynt fod am o leiaf 25 awr yr wythnos, am chwe mis.

Menter Antur Cymru yn eich helpu i wneud cais.

Rydym yn bartner cyflenwi cydnabyddedig sy’n sicrhau cyllid ar gyfer ein cleientiaid busnes – mawr a bach – trwy geisiadau ar y cyd neu’n annibynnol. Mae ein dull llwyddiannus yn dangos sut y bydd pobl ifanc yn cael eu cefnogi ac yn cynnig budd i’r cyflogwr tra’n datblygu sgiliau i wella eu rhagolygon eu hunain ar gyfer sicrhau cyflogaeth.

Ariennir ein cefnogaeth yn llawn trwy’r Cynllun Kickstart ac mae cyllid ychwanegol ar gael i helpu i dalu am iwnifform, hyfforddiant penodol, neu gostau sefydlu eraill.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen:https://anturcymru.org.uk/about-antur-cymru/kickstart-scheme-wales/

neu allwch chi gysylltu â Toni yn uniongyrchol ar  07800 5877014 neu [email protected]

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction