Rhedeg Busnes

Gair o gyngor gan Nikki Channon, MudTrek a Marc Brown, Sporting Hares

Gair o gyngor gan

Marc Brown, Sporting Hares

Dechrau busnes

Wrth ddechrau busnes, mae’n hawdd gadael i’r pethau bach fynd â’ch sylw. Canolbwyntiwch ar yr elfennau allweddol sy’n berthnasol i’ch busnes i ddechrau. Treuliwch amser ar eich cynllun busnes yn hytrach na chanolbwyntio ar greu cardiau busnes ffansi.

Dylech ddisgwyl yr annisgwyl

Mae busnesau da’n addasu i newidiadau yn y farchnad. Mae busnesau gwych yn addasu iddynt ac yn dysgu oddi wrthynt. Byddwch yn barod i fod yn hyblyg pan fyddwch yn wynebu newidiadau.

Gweithio o 9 i 5

Dyw hynny ddim yn bosibl pan fyddwch chi’n rhedeg busnes. Eich busnes fydd eich bywyd; bydd yn rhaid eich bod yn dwlu ar eich busnes a’ch cynnyrch. A pham lai? Chi sydd wedi’i greu. Byddwch yn falch ohono a manteisiwch ar bob cyfle i sôn amdano wrth bawb!

 

Dysgwch ddirprwyo

Efallai eich bod chi’n gallu gwneud y cyfrifon, y marchnata, y gwerthu, y dylunio a’r profi. Ond rywbryd, wrth i chi dyfu, fyddwch chi ddim yn gallu gwneud y cyfan ar yr un pryd i safon uchel. Dysgwch ddirprwyo. Tîm yw eich busnes, a dylech ei redeg fel tîm.


 

Gair o gyngor gan

Nikki Channon, MudTrek

Gwnewch yn fawr tramadol o’ch sgiliau

Meddyliwch pa fath o berson ydych chi. Does dim diben mynd i faes lletygarwch os nad ydych chi’n mwynhau cwmni pobl.

 

Ymchwiliwch, ymchwiliwch, ymchwiliwch

Gwnewch lawer iawn o waith ymchwil i’r farchnad ar gyfer eich cynnyrch, a’r potensial i’r farchnad dyfu. Pwy arall sy’n gwneud hyn? A ydynt yn ei wneud yn dda?

Gwnewch yn fawr o gyfryngau cymdeithasol

Dydw i ddim yn credu y byddai MudTrek wedi llwyddo heb Facebook a Twitter. Dyma’r ffordd orau o rannu gwybodaeth.

Defnyddiwch eich cysylltiadau

Oes gennych chi ffrind sy’n gyfrifydd? Oes gennych chi gymydog cyfeillgar sydd â phrofiad o farchnata? Os ydych

chi’n sefydlu busnes, bydd arnoch angen yr holl help y gallwch chi ei gael – gofynnwch am gymaint o gyngor ag sy’n

bosibl.

 

Chwiliwch am gyllid

Chwiliwch am gynlluniau benthyca posibl neu grantiau ar gyfer busnesau newydd yn eich ardal. Fe ffoniais i fy nghyngor lleol i holi ynghylch grantiau, ac roedd yr arian a gawsom yn sgîl hynny’n golygu y gallem orffen adnewyddu llety ar gyfer ein hymwelwyr.

 

Busnes Cymru

Cysylltwch â Busnes Cymru i ofyn am gyngor. Cawsom ein tywys gan ymgynghorydd penodedig drwy’r broses gymhleth o gyflwyno ceisiadau a pharatoi cynlluniau busnes er mwyn cael cyllid i wireddu ein cynlluniau.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction