Arwyddion cadarnhaol prin i’r stryd fawr yng Nghymru?

 

Mae adroddiad gan Business News Wales am nifer yr ymwelwyr i’r stryd fawr yng Nghymru,  (gweler y ddolen) yn dangos twf yn ystod mis Chwefror, a hynny’n  groes i’r duedd yng ngweddill y DU.

High Street Shopping in Wales on the Increase

Un rheswm am hyn yn ôl dansoddwyr manwerthu Springboard,  yw bod canol trefi  yn  canolbwyntio ar gynnig profiadau hamdden a bwyta i ddenu pobl drwy ategu at y cynnig sydd gan y trefi o ran siopa.

Mae ein gwaith ni wrth ymchwilio ac adrodd ar ragolygon y stryd fawr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn cefnogi hyn.  Yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Llanbedr Pont Steffan yn 2014 fe waneth yr arbenigwr manwerthu Bill Grimsey awgrymu bodangen i fusnesau mewn trefi i edrych ar y cyd ar sefyllfa eu trefi  a gwella eu cynnig trwy roi rheswm i  bobol ymweld â’r trefi  – i wneud canol trefi yn gyrchfannau o ddewis.

Lampeter Event 2014
Bill Grimsey yn annerch ein cyfarfod yn Llambed

Buom yn cyd-weithio â Chanolfan Siopa Rhodfa Santes Catrin yng Nghaerfyrddin yn paratoi arddangosfa ffotograffiaeth i  ddathlu arwyr rygbi lleol, digwyddiad  a arweiniodd at gynnydd cyflym mewn byr o amser ym nifer yr ymwelwyr i’r dref.

Mae ein gwaith diweddaraf ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin,  yn edrych ar y posibilrwydd o fenter siopau pop-up yn nhrefi gwledig Sir Gâr,  hefyd wedi tanlinellu’r angen i ganolbwyntio ar gydweithredu eu hymdrechion a’u gweithgareddau er mwyn rhoi rheswm i bobl  ymweld ac ymgysylltu â’u trefi unwaith yn rhagor.

Trwy waith caled parhaus y bydd y twf a welwyd ym mis Chwefror yn nifer yr ymwelwyr ar draws y stryd fawr yn dod yn dwf gwirioneddol gynaliadwy.

Bydd ein tîm Byd Busnes Byw yma yn Antur Teifi yn hapus i gael sgwrs â chi am ein profiadau o weithio gyda chanol trefi.

 

 

 

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction