Ar Nos Iau, 24ain Medi, aeth criw o Antur Teifi ar drip i Aberystwyth ar gyfer Noson Wobrwyo Arwyr Lleol Radio Ceredigion. Dyma’r tro cyntaf i Radio Ceredigion gynnal noson wobrwyo a oedd yn gyfle i gydnabd rhai o arwyr Ceredigion.
Mae’n debyg bod y panelwyr wedi cael gwaith anodd iawn wrth benderfynu ar yr enillwyr ym mhob cateogri.
Noddwyd cateogri “Entrepreneur Y Flwyddyn” gan Antur Teifi – a fel mae’n digwydd – merch ifanc o Ddyffryn Teifi oedd yr enillydd. Mae Mari Slaymaker yn berchen ar siop farbwr yn Llandysul ac y mae’r busnes yn mynd o nerth i nerth. Mae hefyd yn dilyn cwrs Ymarfer Dysgu (rhan-amser) ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant yn ogystal ag wrthi’n braeniaru’r tir ar gyfer dechrau busnes arall – y syniad mae’n cadw’n gyfrinachol am y tro! Enillydd haeddiannol iawn.