Prosiect peilot arloesol i hybu busnesau newydd yng Ngheredigion

Mae’r prosiect Sgiliau Newydd Dechrau Newydd yn darparu lle i fusnesau bach allu masnachu yng nghanol trefi

Mae prosiect peilot newydd ar fin lansio yng Ngheredigion er mwyn hybu busnesau bach sy’n dymuno treialu syniadau ar y stryd fawr.

Bydd y fenter Sgiliau Newydd Dechrau Newydd yn cael ei arwain gan y cynghorwyr busnes Antur Cymru, gydag arian yn cael ei ddarparu drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn ystod y misoedd nesaf, fe fydd y fenter yn gwneud defnydd o adeiladau gwag ar draws y sir er mwyn agor siopau dros dro i fasnachwyr.

Mae rhan fwya’r masnachwyr un ai’n fusnesau bach o’r newydd neu ddim ond wedi masnachu ar-lein yn y gorffennol, ac fe fyddan nhw’n cael cyfle i weld a yw masnachu ar y stryd fawr o fudd iddyn nhw.

Yn rhan o’r cynllun, bydd y masnachwyr yn cael cyngor busnes arbenigol hefyd, a fydd dim rhaid i’r masnachwyr dalu unrhyw ffi i gael defnyddio’r gofodau chwaith.

Bydd y siopau dros dro yn agor yn Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, a Llanbed dros yr wythnosau nesaf.

Sgiliau Newydd Dechrau Newydd

Julie Morgan yw rheolwr y prosiect, ac mae hi’n edrych ymlaen i weithio gyda’r rheiny sy’n dymuno datblygu eu syniadau busnes.

“Mae gan fenter Sgiliau Newydd Dechrau Newydd sawl elfen iddi,” meddai wrth golwg360.

Julie Morgan yn Aberystwyth

“Y bwriad yw rhoi gofod i fasnachwyr, sydd gan fwyaf yn masnachu ar-lein ond eisiau lle eu hunain.

“Dydy llawer ohonyn nhw ddim yn gallu fforddio talu am le eu hunain, ond maen nhw’n awyddus i dreialu hynny er mwyn gweld sut byddai’r galw yn eu helwa.

“Tra’u bod nhw’n gwneud hynny, byddwn i hefyd yn ychwanegu gwerth at eu profiad drwy eu hyfforddi nhw, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r wybodaeth maen nhw angen.”

‘Barod i groesawu unrhyw un’

Mae rhan fwya’r busnesau sydd wedi ymuno â’r fenter hyd yn hyn yn ymwneud â chrefft mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, gan gynnwys gwneuthurwr lamplenni, dylunydd, a rhywun sy’n adfer hen ddodrefn.

Ychwanega Julie Morgan y byddan nhw’n “hyblyg” ac yn “barod i groesawu” pob math o fusnesau bach.

Mae hi hefyd yn credu bod yna “lawer o gyfleoedd” i fasnachwyr, yn enwedig wrth adfer o’r pandemig.

Fe fydd y fenter yn dod i ben ar Fehefin 30 eleni, ond mae’n debyg y bydd yn cael ei hymestyn pe bai’n llwyddiannus.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Antur Cymru neu e-bostiwch [email protected].Rhannu

Prosiect peilot arloesol i hybu busnesau newydd yng Ngheredigion – Golwg360

https://anturcymru.org.uk/entrepreneurship/new-skills-new-start/

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction