Cyfle heb ei ail, diolch i Trac

Mae’n ymddangos bod eleni’n flwyddyn o gerrig milltir yn hanes Antur Teifi. Wrth i Antur Teifi ddathlu 35 mlynedd o gynorthwyo busnesau yng ngorllewin Cymru, gwelwyd Gwasanaethau Cyflogaeth Trac, sy’n rhan o Antur Teifi, yn cyrraedd carreg filltir bwysig eleni hefyd wrth i’r gwasanaeth sicrhau ei 1000 fed lleoliad ers ennill contract y Rhaglen Waith ym mis Mehefin 2011 mewn partneriaeth â Rehab a Jobfit ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin. Cafodd Liam Collins ei gyflogi gan Bull Art Graphics yn Ystradgynlais yn rhan o’r Cynllun Cymhelliant Cyflog, ac ers hynny mae wedi “dod yn gaffaeliad mawr i’r cwmni” yn ôl y cyfarwyddwr, Jonathan Evans. Roedd y cwmni yn falch hefyd o’r modd y gwnaeth alluogi Trac i fwrw’r targed o 1000 o straeon llwyddiant. Ond mae’r llwyddiannau’n parhau. Roedd Enzo Smith wedi bod yn ddi-waith ers chew blynedd cyn iddo gael ei gyfeirio at Trac.

Roedd rhwystrau ariannol wedi chwalu unrhyw freuddwyd a oedd ganddo ynghylch bod yn hunangyflogedig. Ar ôl dioddef sawl ergyd, roedd ei hyder a’i frwdfrydedd wedi diflannu ac roedd wedi anobeithio ynghylch gwireddu ei freuddwyd. Roedd Enzo yn teimlo bod un peth arall yn ei rwystro rhag llwyddo – y ffaith ei fod wedi’i ddyfarnu’n euog o drosedd.

Newidiodd hynny i gyd ar ôl iddo gael ei gyfeirio at Trac. “Neilltuodd Heather a thîm Trac amser i wrando arna i,” meddai. “Daethant i fy adnabod a dysgu beth roeddwn i’n gallu ei wneud. Gwnaethant fy helpu i glustnodi’r math o waith a fyddai’n addas i mi, a chefais help ganddynt i lenwi’r ffurflenni cais.” Roedd ffydd Trac yn Enzo yn ffactor pwysig yn ei ymdrech I lwyddo. “Wnaethon nhw ddim pregethu arna i,” ychwanegodd.

“Yn hytrach, roedden nhw’n fy sicrhau drwy’r amser y byddai cyfle’n siŵr o godi pe bawn i’n dal ati, a dyna a ddigwyddodd.” Ar ôl adfer ei hunanhyder, aeth Enzo ati i chwilio am waith a chafodd swydd maes o law gyda gwesty’r Premier Inn yn Abertawe. Ar ôl deng mis yn unig, mae wedi cael cynnig prentisiaeth ym maes Lletygarwch a Rheoli. Mae Laura Mustoe, Rheolwr Gweithrediadau’r gwesty, yn canmol Enzo yn fawr. “Mae Enzo wedi bod yn chwa o awyr iach ers i ni ei gyflogi,” meddai. “Mae wedi cael cyfle, ac mae wedi gwneud yn fawr ohono. Mae’n arweinydd naturiol, ac rwy’n rhagweld y bydd yn cael gyrfa lwyddiannus iawn.”

Nod Enzo yn awr yw cwblhau’r brentisiaeth a cheisio cael dyrchafiad o fewn Premier Inn. Ond er ei fod wrth ei fodd â’I lwyddiant personol, mae hefyd yn benderfynol o helpu pobl eraill sydd yn ei sefyllfa ef. Mae’n gobeithio y bydd ei gyflogwr yn croesawu’r syniad o hyrwyddo profiad gwaith cadarnhaol I unigolion sy’n anweithgar yn gymdeithasol ac yn economaidd, er mwyn eu helpu nhw i efelychu ei lwyddiant ef. Mae Enzo a Liam yn enghreifftiau ysbrydoledig iawn i bawb o’r modd y gall cydweithio â Trac arwain at ddyfodol mwy disglair.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction