Polisi Preifatrwydd Gwefan (GDPR)

Cyflwyniad

Croeso i hysbysiad preifatrwydd Antur Cymru.

Mae Antur Cymru yn parchu eich preifatrwydd ac yn ymrwymedig i warchod eich data personol. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch chi’n edrych ar ein gwefan (waeth o ble rydych yn edrych arni) ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu.

Darperir yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar ffurf haenog fel y gallwch glicio i’r meysydd penodol a nodir isod.

Gwybodaeth bwysig a phwy ydym ni.

Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am sut mae Antur Cymru yn casglu a phrosesu eich data personol trwy eich defnydd o’r wefan hon, gan gynnwys unrhyw ddata y gallwch ei ddarparu drwy’r wefan hon pan fyddwch [yn cofrestru i’n cylchlythyr, yn prynu cynnyrch neu wasanaeth neu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth].

Nid yw’r wefan hon wedi’i bwriadu ar gyfer plant ac nid ydym yn casglu data yn ymwneud â phlant yn fwriadol.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd arall, neu hysbysiad prosesu teg y gallwn ei roi ar adegau penodol pan fyddwn yn casglu neu’n prosesu data personol amdanoch, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio eich data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ategu at yr hysbysiadau eraill ac nid yn eu diystyru.

Rheolydd

Mae Antur Cymru wedi’i ffurfio o wahanol endidau cyfreithiol gan gynnwys Mentrau Antur Teifi, Telemat a Pherspectif. Cyhoeddir yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar ran Grŵp Antur Teifi, felly pan fyddwn yn sôn am Antur Cymru “rydym”, “ni” neu “ein” yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, rydym yn cyfeirio at y cwmni perthnasol yng Ngrŵp Antur Teifi sy’n gyfrifol am brosesu eich data. [Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa endid fydd y rheolydd ar gyfer eich data pan fyddwch chi’n prynu cynnyrch neu wasanaeth gyda ni.] Antur Teifi yw’r rheolydd ac mae’n gyfrifol am y wefan hon.

Rydym wedi penodi [swyddog diogelu data (DPO) NEU reolwr preifatrwydd data] sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â’r [DPO NEU reolwr preifatrwydd data] gan ddefnyddio’r manylion a nodir isod.

Manylion Cyswllt

Ein manylion llawn yw:

Antur Teifi,

Enw neu deitl y DPO: Aled Davies

Cyfeiriad e-bost: [email protected]

Cyfeiriad post:

Aberarad,
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DB

01239 710238

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwyliol y DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi fynd at yr ICO, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd a’ch dyletswydd i roi gwybod i ni am newidiadau

Crëwyd y fersiwn hon ar 28/8/2020

[Bydd y gyfraith diogelu data yn y DU yn newid 25 Mai 2018. Er bod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi’r rhan fwyaf o’ch hawliau dan y deddfau newydd, efallai na fyddwn yn gallu ymateb i rai o’ch ceisiadau eto (er enghraifft, cais i drosglwyddo eich data personol), gan ein bod yn dal i weithio tuag at gael ein systemau’n barod ar gyfer rhai o’r newidiadau hyn.]

Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni os yw eich data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

Cysylltiadau trydydd parti

Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, ategion a rhaglenni. Gall clicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny ganiatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau trydydd parti hyn ac nid yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd bob gwefan rydych chi’n mynd arni.

Y data a gasglwn amdanoch

Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohoni. Nid yw’n cynnwys data lle mae’r hunaniaeth wedi’i dileu (data anhysbys).

Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch yr ydym wedi’u rhoi mewn grwpiau fel a ganlyn:

  • Mae Data Hunaniaeth yn cynnwys [enw cyntaf, enw cyn priodi, cyfenw, enw defnyddiwr neu ddynodwr tebyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhyw].
  • Mae Data Cyswllt yn cynnwys [cyfeiriad bilio, cyfeiriad danfon, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn].
  • Mae Data Ariannol yn cynnwys [manylion cyfrif banc a cherdyn talu].
  • Mae Data Trafodion yn cynnwys [manylion am daliadau i chi ac oddi wrthych a manylion eraill ynghylch y cynhyrchion a’r gwasanaethau rydych wedi’u prynu gennym ni].
  • Mae Data Technegol yn cynnwys [cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, math o borwr a fersiwn, lleoliad a gosodiad parth amser, mathau a fersiynau ategion porwr, system weithredu a phlatfform a thechnoleg arall ar y dyfeisiadau a ddefnyddiwch i gael mynediad at y wefan hon].
  • Mae Data Proffil yn cynnwys [eich enw defnyddiwr a chyfrinair, pryniannau neu orchmynion a wneir gennych chi, eich diddordebau, dewisiadau, adborth ac ymatebion i’r arolwg].
  • Mae Data Defnydd yn cynnwys [gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan, cynhyrchion a gwasanaethau].
  • Mae Data Marchnata a Chyfathrebu yn cynnwys [eich dewisiadau wrth dderbyn deunydd marchnata gennym ni a’n trydydd parti a’ch dewisiadau cyfathrebu].

Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfunol fel data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Efallai y bydd Data Cyfunol yn deillio o’ch data personol ond ni chaiff ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw’r data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cyfuno’ch Data Defnydd i gyfrifo canran y defnyddwyr sy’n defnyddio nodwedd gwefan benodol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu Data Cyfunol gyda’ch data personol fel y gall eich adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfunol fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch chi (mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu’ch ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd a data genetig a biometrig). Ac nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau.

Os na fyddwch yn darparu data personol

Lle mae angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi a’ch bod yn methu â darparu’r data hwnnw pan ofynnir amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym neu yr ydym yn ceisio ei gyflawni gyda chi (er enghraifft, i ddarparu nwyddau neu wasanaethau i chi). Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo cynnyrch neu wasanaeth sydd gennych gyda ni, ond byddwn yn eich hysbysu os yw hyn yn wir ar y pryd.

Sut y caiff eich data personol ei gasglu?

Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, yn cynnwys drwy:

  • Ryngweithiadau uniongyrchol. Gallwch roi eich [Data Hunaniaeth, Cyswllt ac Ariannol] drwy lenwi ffurflenni neu drwy ohebu gyda ni drwy’r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol rydych yn ei roi pan fyddwch yn:

ymgeisio am ein cynhyrchion neu wasanaethau;

  • creu cyfrif ar ein gwefan;
  • tanysgrifio i’n gwasanaeth neu gyhoeddiadau;
  • gofyn bod deunydd marchnata’n cael ei anfon atoch;
  • rhoi cynnig ar gystadleuaeth, hyrwyddiad neu arolwg; neu
  • yn rhoi adborth i ni.
  • Technolegau neu ryngweithiadau awtomatig. Wrth i chi ryngweithio â’n gwefan, efallai y byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich offer, eich gweithredoedd pori a’ch patrymau. Casglwn y data personol hwn trwy ddefnyddio cwcis, [logiau gweinydd] a thechnolegau tebyg eraill. [Efallai y byddwn hefyd yn derbyn Data Technegol amdanoch os byddwch yn ymweld â gwefannau eraill sy’n cyflogi ein cwcis.] Gweler ein polisi cwcis [DOLEN] am ragor o fanylion].
  • Trydydd partïon neu ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd. Efallai y byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan wahanol drydydd partïon [a ffynonellau cyhoeddus] fel y nodir isod:
  • Data Technegol gan y partïon canlynol:
  • darparwyr dadansoddol a darparwyr gwybodaeth chwilio fel Google, yn seiliedig y tu allan i’r UE];
  • Data Cyswllt, Ariannol a Thrafodion gan ddarparwyr gwasanaethau technegol, talu a darparu [fel [ENW] yn seiliedig [y tu mewn NEU’R tu allan] i’r UE].
  • Data Hunaniaeth a Chyswllt gan froceriaid data neu agregyddion [fel [ENW] yn seiliedig [y tu mewn NEU’R tu allan] i’r UE].
  • Data Hunaniaeth a Chyswllt o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus [fel Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestr Etholiadol sydd wedi’u lleoli y tu mewn i’r UE].
  • Data a brynwyd e.e. Tŷ Data y DU

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Byddwn ond yn defnyddio eich data personol pan mae’r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio eich data personol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle rydym angen perfformio’r contract rydym am ei gyflawni, neu wedi’i gyflawni gyda chi.
  • Lle mae’n hanfodol i’n buddiannau cyfreithiol (neu rai trydydd parti) ac nid yw eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol yn goresgyn y buddiannau hynny.
  • Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddio.

Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol heblaw mewn perthynas ag anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol trydydd parti atoch chi trwy e-bost neu neges destun. Mae gennych yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl o ran marchnata ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni.

Ein pwrpas dros ddefnyddio’ch data personol

Rydym wedi nodi isod, mewn fformat tabl, ddisgrifiad o’r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio’ch data personol, a pha rai o’r seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau cyfreithlon lle bo hynny’n briodol.

Nodwch y gallwn brosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un sail gyfreithlon, yn dibynnu ar y pwrpas penodol yr ydym yn defnyddio’ch data ar ei gyfer. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen manylion am y sail gyfreithiol benodol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un sail wedi’i nodi yn y tabl isod.

Pwrpas/GweithgareddMath o ddataSail gyfreithiol dros brosesu, yn cynnwys sail buddiant cyfreithiol
I’ch cofrestru chi fel cwsmer newydd

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

Perfformio contract gyda chi

I brosesu a darparu eich archeb yn cynnwys:

(a) Rheoli taliadau, ffioedd a thaliadau a godir

(b) Casglu ac adennill arian sy’n ddyledus i ni

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Ariannol

(d) Trafodion

(e) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Perfformio contract gyda chi

(b) Yn hanfodol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i adennill dyledion sy’n ddyledus i ni)

I reoli ein perthynas gyda chi a fydd yn cynnwys:

(a) Eich hysbysu am newidiadau i’n telerau neu bolisi preifatrwydd

(b) Gofyn i chi adael adolygiad neu i wneud arolwg

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(d) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Perfformio contract gyda chi

(b) Yn hanfodol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithlon

(c) Yn hanfodol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i gadw ein cofnodion yn gyfredol ac astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau)

I’ch galluogi i gymryd rhan mewn raffl, cystadleuaeth neu i wneud arolwg

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(d) Defnydd

(e) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Perfformio contract gyda chi

(b) Yn hanfodol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau, i’w datblygu a thyfu ein busnes)

I weinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd a chynnal data)

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Technegol

(a) Yn hanfodol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (ar gyfer rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, diogelwch rhwydwaith, i atal twyll ac yng nghyd-destun ad-drefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp)

(b) Yn hanfodol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithlon

I ddarparu cynnwys a hysbysebion gwefan berthnasol i chi a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebion a wasanaethwn i chi

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(d) Defnydd

(e) Marchnata a Chyfathrebu

(f) Technegol

Yn hanfodol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau, i’w datblygu, i dyfu ein busnes a sut i lywio ein strategaeth farchnata)
I ddefnyddio dadansoddiadau data i wella ein gwefan, cynhyrchion/ gwasanaethau, marchnata, perthnasau cwsmeriaid a phrofiadau

(a) Technegol

(b) Defnydd

Yn hanfodol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein cynhyrchion a gwasanaethau, i gadw ein gwefan yn gyfredol ac yn berthnasol, i ddatblygu ein busnes ac i lywio ein strategaeth farchnata
I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Technegol

(d) Defnydd

(e) Proffil

Yn hanfodol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein cynhyrchion/gwasanaethau a thyfu ein busnes)

Marchnata

Rydym yn ymdrechu i roi dewisiadau i chi mewn perthynas â rhai defnyddiau data personol, yn enwedig o ran marchnata a hysbysebu.

Cynigion hyrwyddo gennym ni

Efallai y byddwn yn defnyddio eich Data Hunaniaeth, Cyswllt, Technegol, Defnydd a Phroffil i lunio barn ar yr hyn yr ydym yn ei feddwl rydych ei eisiau neu ei angen, neu beth allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut rydym yn penderfynu pa gynhyrchion, gwasanaethau a chynigion a allai fod yn berthnasol i chi (rydym yn galw hyn yn farchnata).

Byddwch yn cael cyfathrebiadau marchnata oddi wrthym os ydych wedi gofyn am wybodaeth gennym ni neu wedi prynu [nwyddau neu wasanaethau] gennym ni [neu os gwnaethoch chi roi eich manylion i ni wrth roi cynnig ar gystadleuaeth neu gofrestru ar gyfer hyrwyddiad] ac ym mhob achos, heb optio allan o gael y marchnata hwnnw.

Marchnata trydydd parti

Byddwn yn cael eich caniatâd optio i mewn penodol cyn i ni rannu’ch data personol gydag unrhyw gwmni y tu allan i grŵp Antur Teifi o gwmnïau at ddibenion marchnata.

Optio allan

Gallwch ofyn i ni neu drydydd parti roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch ar unrhyw adeg [trwy fewngofnodi ar y wefan a dewis neu ddad-ddewis y blychau perthnasol i addasu eich dewisiadau marchnata neu drwy ddilyn y dolenni optio allan ar unrhyw neges farchnata a anfonir atoch neu] trwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg].

Os ydych yn optio allan o dderbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarparwyd i ni o ganlyniad i [brynu cynnyrch/gwasanaeth, cofrestru gwarant, profiad cynnyrch/gwasanaeth neu drafodion eraill].

Cwcis

[Gallwch osod eich porwr i wrthod pob cwci neu rywfaint o gwcis porwr, neu i roi gwybod i chi pan fydd gwefannau yn gosod neu’n cael mynediad at gwcis. Os byddwch yn analluogi neu’n gwrthod cwcis, nodwch y gall rhai rhannau o’r wefan hon ddod yn anhygyrch neu beidio â gweithredu’n iawn. Am ragor o wybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio, gweler [DOLEN I’CH POLISI CWCIS.]]

Newid pwrpas

Byddwn ond yn defnyddio eich data personol at y dibenion y gwnaethom ei gasglu, oni bai ein bod yn ystyried o fewn rheswm bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r pwrpas gwreiddiol. Os hoffech gael eglurhad ynghylch sut mae’r prosesu ar gyfer y pwrpas newydd yn gydnaws â’r pwrpas gwreiddiol, cysylltwch â ni.

Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben anghysylltiol, byddwn yn eich hysbysu a byddwn yn egluro’r sail gyfreithiol sy’n ein galluogi i wneud hynny.

Nodwch y gallwn brosesu eich data personol heb eich gwybodaeth neu’ch caniatâd, yn unol â’r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu yn ôl y gyfraith.

Datgelu eich data personol

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data personol gyda’r unigolion a nodir isod ar gyfer y dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 4 uchod.

  • Trydydd partïon mewnol
  • Trydydd Partïol Allanol [[Trydydd partïol penodol [a restrir yn y tabl ym [mharagraff 4] uchod] NEU fel [TRYDYDD PARTÏON PENODOL]].]
  • Trydydd partïon y gallem ddewis gwerthu, trosglwyddo, neu uno rhannau o’n busnes neu ein hasedau. Fel arall, efallai y byddwn yn ceisio caffael busnesau eraill neu uno â nhw. Os bydd newid yn digwydd i’n busnes, yna gall y perchnogion newydd ddefnyddio’ch data personol yn yr un modd ag a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Nid ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).]

Rydym yn sicrhau bod eich data personol yn cael ei ddiogelu trwy ei wneud yn ofynnol i bob un o’n cwmnïau grŵp ddilyn yr un rheolau wrth brosesu eich data personol. Gelwir y rheolau hyn yn “rheolau corfforaethol ymrwymol”. Am ragor o fanylion, gweler y Comisiwn Ewropeaidd: Rheolau corfforaethol ymrwymol.]

[Mae sawl un o’n trydydd partïon allanol wedi’u lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) felly bydd eu dull o brosesu eich data personol yn golygu trosglwyddo data y tu allan i’r AEE.]

Pryd bynnag y trosglwyddwn eich data personol allan o’r AEE, rydym yn sicrhau bod rhywfaint o ddiogelwch yn cael ei roi trwy sicrhau bod o leiaf un o’r mesurau diogelu canlynol yn cael eu gweithredu [DILËWCH FEL Y BO’N BRIODOL]:

  • Byddwn ond yn trosglwyddo’ch data personol i wledydd y tybir eu bod yn darparu lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer data personol gan y Comisiwn Ewropeaidd. Am ragor o fanylion, gweler y Comisiwn Ewropeaidd: Digonolrwydd y diogelwch a roddir i ddata personol mewn gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE.
  • Pan fyddwn yn defnyddio rhai darparwyr gwasanaethau, efallai y byddwn yn defnyddio contractau penodol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd sy’n rhoi’r un amddiffyniad i ddata personol ag sydd ganddo yn Ewrop. Am ragor o fanylion, gweler y Comisiwn Ewropeaidd: Contractau enghreifftiol ar gyfer trosglwyddo data personol i drydedd wlad.
  • Lle rydym yn defnyddio darparwyr yn yr Unol Daleithiau, gallwn drosglwyddo data iddynt os ydynt yn rhan o’r Privacy Shield, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu diogelwch tebyg i ddata personol a rennir rhwng Ewrop a’r UD. Am ragor o fanylion, gweler y Comisiwn Ewropeaidd: Privacy Shield UE-UD.

Cysylltwch â ni os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am y dull penodol a ddefnyddir gennym wrth drosglwyddo eich data personol allan o’r AEE.

Diogelwch Data

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei agor mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad i’ch data personol i’r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill hynny sydd angen gwybod amdano. Byddant ond yn prosesu eich data personol ar ein cyfarwyddiadau ni ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd gyfrinachedd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw gamau o dorri amodau data personol a amheuir, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o doriad lle mae’n ofynnol i ni wneud hynny yn gyfreithiol.

Cadw data

Am ba hyd y byddwch chi’n defnyddio fy nata personol?

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn belled ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y gwnaethom ei gasglu, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y perygl posibl o niwed o ganlyniad i ddefnyddio neu ddatgelu’ch data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ac a allwn gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

[Mae manylion am gyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau ar eich data personol [ar gael yn ein polisi cadw y gallwch ofyn i ni amdano trwy gysylltu â ni NEU a nodir yn y tabl ym mharagraff 4 uchod].

NEU

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ni gadw gwybodaeth sylfaenol am ein cwsmeriaid (gan gynnwys Data Cyswllt, Hunaniaeth, Ariannol a Thrafodion) am [chwech] o flynyddoedd ar ôl iddynt roi’r gorau i fod yn gwsmeriaid at ddibenion [treth].] Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler [Cais am ddileu] isod i gael rhagor o wybodaeth.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn gwneud eich data personol yn ddienw (fel na all fod yn gysylltiedig â chi bellach) at ddibenion ymchwil neu ddibenion ystadegol, ac os felly, efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb rybudd pellach i chi.

Eich hawliau cyfreithiol

O dan amgylchiadau penodol, mae gennych hawliau o dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â’ch data personol. Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i wybod mwy am yr hawliau hyn:

  • [Gofyn am fynediad i’ch data personol].
  • [Gofyn am gywiro eich data personol].
  • [Gofyn i ddileu eich data personol].
  • [Gwrthwynebu prosesu eich data personol].
  • [Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol].
  • [Gofyn am drosglwyddo eich data personol].
  • [Hawl i dynnu caniatâd yn ôl].

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â ni

Nid oes ffi yn ofynnol fel arfer

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad i’ch data personol (neu i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, efallai y byddwn yn gwrthod cydymffurfio â’ch cais yn yr amgylchiadau hyn.

Yr hyn y gallwn ofyn amdano gennych

Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych er mwyn ein helpu i gadarnhau eich hunaniaeth a sicrhau eich hawl i gael mynediad i’ch data personol (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes ganddo hawl i’w dderbyn. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais i gyflymu ein hymateb.

Terfyn amser i ymateb

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. Weithiau gall gymryd mwy o amser i ni na mis os yw eich cais yn arbennig o gymhleth, neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn eich diweddaru.

Geirfa

SAIL GYFREITHIOL

Mae Buddiant Cyfreithiol yn golygu buddiant ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i’n galluogi i roi’r gwasanaeth/cynnyrch gorau a’r profiad gorau a mwyaf diogel i chi. Rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (yn gadarnhaol a negyddol) a’ch hawliau, cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Nid ydym yn defnyddio’ch data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae ein buddiannau’n cael eu diystyru gan yr effaith arnoch chi (oni bai fod gennym eich caniatâd neu fel arall yn ofynnol neu wedi cael caniatâd y gyfraith). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn asesu ein buddiannau cyfreithlon yn erbyn unrhyw effaith bosibl arnoch mewn perthynas â gweithgareddau penodol trwy gysylltu â ni.

Mae Perfformio Contract yn golygu prosesu eich data lle bo angen er mwyn perfformiad contract yr ydych yn rhan ohono, neu gymryd camau ar eich cais eich hun cyn ymrwymo i gontract o’r fath.

Mae Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddio yn golygu prosesu eich data personol lle bo’n ofynnol gyda rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddio yr ydym yn ddarostyngedig iddi.

TRYDYDD PARTÏON

Trydydd Partïon Mewnol

Cwmnïau eraill yng Ngrŵp Antur Teifi [sy’n gweithredu fel rheolyddion neu broseswyr ar y cyd] ac sydd wedi’u lleoli yn [GWLEDYDD PENODOL] ac yn darparu [gwasanaethau gweinyddu system a TG ac yn cynnal adroddiadau arweinyddiaeth].

Trydydd Partïon Allanol 

  • Darparwyr gwasanaeth [sy’n gweithredu fel proseswyr] yn y DU sy’n darparu gwasanaethau gweinyddu system a TG].
  • Ymgynghorwyr proffesiynol [yn gweithredu fel proseswyr neu reolyddion ar y cyd] gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr yn y DU sy’n darparu [gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifo].
  • Cyllid a Thollau EM, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill [sy’n gweithredu fel proseswyr neu reolyddion ar y cyd] yn seiliedig [yn y Deyrnas Unedig] [sydd angen adrodd am weithgareddau prosesu dan rai amgylchiadau].
  • [MANYLION UNRHYW DRYDYDD PARTI ARALL, ER ENGHRAIFFT, YMCHWILWYR MARCHNAD, ASIANTAETHAU ATAL TWYLL, SAFLEOEDD CYMHARU PRISIAU AC ATI].

EICH HAWLIAU CYFREITHIOL

Mae gennych yr hawl i:

Ofyn am fynediad i’ch data personol (a elwir yn gyffredin fel “cais am fynediad gan wrthrych data”). Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o’r data personol sydd gennym amdanoch ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon. Gofyn am gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd a roddwch i ni. Gofyn am ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu data personol lle nad oes gennym reswm da dros barhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu dynnu eich data personol lle rydych wedi llwyddo arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu (gweler isod), lle efallai y byddwn wedi prosesu’ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae gofyn i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol a fydd yn cael eu cyfleu i chi, os yw’n berthnasol, ar adeg eich cais.

Gwrthwynebu i brosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mae rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy’n eich gwneud yn awyddus i wrthwynebu prosesu ar y sail hon, gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dangos ein bod â seiliau cyfreithlon dilys i brosesu eich gwybodaeth, sy’n diystyru eich hawliau a’ch rhyddid. Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu eich data personol yn yr achosion canlynol: (a) os ydych am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) lle mae ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu; (c) lle rydych angen i ni ddal y data hyd yn oed os nad ydym bellach ei angen, oherwydd eich bod chi angen y data i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (d) rydych wedi gwrthwynebu ein defnydd o’ch data ond mae angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithiol hollbwysig i’w ddefnyddio. Gofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu eich data personol i chi, neu drydydd parti o’ch dewis, mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin, sy’n ddarllenadwy ar beiriant. Noder nad yw’r hawl hon ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y gwnaethoch roi caniatâd i ni ei defnyddio i ddechrau, neu lle’r oeddem yn defnyddio’r wybodaeth i berfformio contract gyda chi. Tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wneir cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai cynhyrchion neu wasanaethau i chi. Byddwn yn eich cynghori os yw hyn yn wir ar yr adeg y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction