Polisi Iaith Gymraeg

Nod Antur Cymru yw dilyn canllawiau arferion da o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae’r polisi hwn yn berthnasol i’n holl weithgareddau busnes. Pan fydd y sefydliad yn cynllunio polisïau, arferion neu fentrau newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn hwyluso a chefnogi ymhellach yr hyn sy’n cael ei addo yn y Polisi hwn.

EGWYDDORION EIN POLISI IAITH GYMRAEG

Rydym wedi mabwysiadu egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail eu bod yn gyfartal. Fe fydd y ddwy iaith yn cynnal yr un statws a dilysrwydd.

Mae’r Polisi hwn yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd i weithredu’r egwyddor hon yn ein gwaith.

Wrth ymdrin â’n cleientiaid a chwsmeriaid eraill, rydym yn ceisio:

  • mabwysiadu yr un amcanion a safonau proffesiynol wrth ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, lle bynnag mae hyn yn bosibl,
  • galluogi ein cwsmeriaid, lle bynnag mae hyn yn bosibl, i ddefnyddio’r Gymraeg mor rhwydd â’r Saesneg wrth ddelio gyda ni, a sicrhau bod cleientiaid yn ymwybodol o’r cychwyn bod ganddynt ddewis iaith wrth geisio gwybodaeth a chyngor,
  • sicrhau bod ein cleientiaid yn ymwybodol o’r angen i ystyried defnydd o’r Gymraeg yn y busnesau maent am eu cychwyn neu eu datblygu.

Rydym yn cymryd yr ymrwymiad yma o ddifrif, ac yn mabwysiadu safbwynt rhagweithiol i ddewis iaith yn ein gwasanaethau, lle bynnag mae hyn yn bosibl.

Mewn cyswllt gyda chleientiaid, mae hyn yn golygu cynnig dewis iaith yn agored, a cheisio ein gorau i’w ddarparu.

Golyga hyn atgyfnerthu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith o ddydd i ddydd.

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction