Mae Perspectif, sef gwasanaeth newydd a lansiwyd gan Antur Teifi eleni, newydd gyflwyno ei adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad ynglŷn â’r sector gwestai, sy’n nodi rhai o’r heriau sy’n wynebu busnesau yn y sector ynghyd â chyfleoedd i dyfu.
Bydd y Wybodaeth am y Farchnad sydd yn yr adroddiad yn galluogi busnesau i gynllunio eu gweithgareddau marchnata’n fwy effeithiol, gan ddefnyddio gwybodaeth am dueddiadau’n ymwneud â niferoedd ymwelwyr a’r modd y mae gwestai ar draws y DU a thu hwnt yn ymateb i dueddiadau cwsmeriaid.
- Mae’n debyg y bydd cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr yn cael ei sbarduno gan ymwelwyr o dramor yn ystod y pum mlynedd nesaf.
- Bydd marchnata trwy gyfrwng dyfeisiau symudol yn dod yn ddull marchnata mwyfwy pwysig.
Dyma ddau’n unig o’r holl bwyntiau allweddol a nodir yn yr adroddiad ynglŷn â’r sector, sydd ar gael yn rhan o wasanaeth a ddarperir gan Perspectif sy’n ceisio sicrhau bod gan fusnesau ddadansoddiad o’u marchnadoedd allweddol er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau busnes cadarn ar sail tystiolaeth go iawn sydd ar ffurf data dibynadwy.
Mae Gwesty’r Talbot yn Nhregaron yn deall yn iawn beth sy’n denu cwsmeriaid yno, ac mae’r cyfarwyddwyr yn adeiladu brand a busnes llwyddiannus drwy dargedu’r cwsmeriaid cywir yn y modd cywir.
Dan berchnogaeth Mick a Nia Taylor, mae Gwesty’r Talbot wedi mynd ati’n ofalus i’w leoli ei hun yn y farchnad drwy feithrin dealltwriaeth dda o gymhellion ei gwsmeriaid ar gyfer yr ystod o wasanaethau a gynigir gan y gwesty. Mae’r gwesty yn darparu’r gwasanaethau hynny ar sail set graidd o werthoedd – y nod yw rhagori ar ddisgwyliadau a rhoi gwasanaeth o safon. Mae’r gwesty yn canolbwyntio ar gynnig profiad gwych i bob ymwelydd, gan ddechrau drwy gyflogi staff lleol sy’n adnabod eu hardal leol yn dda ac sydd yr un mor frwdfrydig â’r perchnogion ynglŷn â sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad gwych.
Yn ôl Roz Sherman-Davies, Dadansoddwr Marchnad Perspectif, mae’r lefel hon o wasanaeth yn bodloni un o’r tueddiadau allweddol ym maes gwasanaeth cwsmer, a welir yn gynyddol yn y farchnad heddiw, sef personoli.
‘Mae ymwelwyr yn chwilio am brofiadau dilys go iawn, felly os oes gennych staff sy’n amlwg yn frwdfrydig yngl?n â’r gwesty a’r ardal gyfagos bydd y gwesteion yn teimlo eu bod wedi cael profiad dyfnach, mwy unigryw nad yw o reidrwydd yn perthyn i’r un hen lwybr a ddilynir gan bob ymwelydd,’ meddai Roz.
‘Bydd darparu’r lefel hon o wasanaeth yn gyson yn arwain at adolygiadau cadarnhaol ac at ragor o ymwelwyr. Mae’n braf gweld busnes yn Nyffryn Teifi yn croesawu’r cyfle hwn yn y farchnad ac yn manteisio arno’n ymarferol, gan wneud hynny’n llwyddiannus, mae’n amlwg,’ ychwanegodd.