Penodi Cwmni Cymorth TG Telemat fel darparwyr blaengar i Fframwaith IoT Cyswllt Ffermio

Telemat

Mae Cwmni Cymorth TG Telemat wedi llwyddo i sicrhau ei le ar fframwaith cymorth technegol arbenigol Cyswllt Ffermio i gefnogi prosiect Ffermydd Arddangos, Rhyngrwyd Pethau (IoT)

Bydd Telemat TG, ynghyd â’i bartner, Yngynghoriaeth Morgan Walsh Cyf, yn cynnig ei brofiad a’i wybodeth i ddarparu cymorth ymgynghori, a pheirianwyr gwasanaeth maes, trwy osod, cynnal ac uwchraddio’r seilwaith IoT ar draws Cymru.

Mae IoT yn cynnig cyfle i fonitro a mesur ystod o weithgareddau ar ffermydd trwy ddefnyddio technoleg cost isel gan gynnwys amrywiaeth o synwyryddion sy’n medru nodi tymheredd, ansawdd aer, symudiad gatiau, ansawdd dŵr a llawer mwy.

Gydag amser, bydd cymwysiadau IoT yn newid y ffordd rydym yn gweithio gan drawsnewid ystod eang o ddiwydiannau. Mae Telemat yn falch iawn o’r cyfle i fedru gweithio yn y maes pwysig hwn wrth i dechnolegau newydd ddod i’r amlwg a datblygu.

Mae prosiect a gyflawnwyd gan Morgan Walsh wrth ail-ddatblygu rheolydd tanc llaeth yn esiampl dda o effaith IoT ar y byd amaeth.  Ddwy flynedd ar ôl ei ddadorchuddio, mae’r system IoT monito llaeth yn arbed tua 10,000 litr o laeth y mis i ffermwyr ar draws y byd oherwydd bod y dechnoleg newydd hon yn medru tynnu sylw ffermwyr a pheiranwyr fferm at unrhyw broblemau yn syth.

 Dywedodd Gary Howell o Morgan Walsh:

 “Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr fonitro ystod eang o weithgareddau ar eu ffermydd yn awtomatig a fydd yn eu tro yn lleihau costau rhedeg y fferm, yn cynyddu proffidioldeb ac yn helpu i gynhyrchu cynnyrch o ansawdd gwell”.

 Meddai Aled Davies o Gwmni TG Telemat:

 “Mae gweithio i Gyswllt Ffermio yn cydweddu â’n cryfderau ni fel cwmni trwy gydweithio ag arbenigwyr yn y maes amaethyddol i ddarparu datrysiadau TG dwyieithog, ac ry’ ni’n edrych ymlaen at gryfhau’r berthynas â sector sydd mor bwysig i economi Cymru”.

Mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio yn cefnogi datblygiad sector mwy proffesiynol, proffidiol a gwydn ar y tir. Mae’n cynnwys rhaglen integredig o drosglwyddo gwybodaeth, arloesi a gwasanaethau cynghori sydd wedi’u cynllunio i ddarparu mwy o gynaliadwyedd, gwell cystadleurwydd, a gwell perfformiad amgylcheddol.

I gael mwy o wybodaeth am Gwmni Datrysiadau TG Telemat: www.telemat.co.uk, neu www.anturcymru.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad i’r wasg hwn a lluniau:

Dai Nicholas, Rheolwr Marchnata, Menter Antur Cymru a Datrysiadau TG Telemat  ar 07736542280

I gael gwybodaeth am Morgan Walsh: www.morganwalsh.co.uk

Llun/Photo by: © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2019) Cymru Wales

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction