Cyfle i rannu eich barn ar ddyfodol gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin

#CyfnewidSyniadau – cyfle i rannu eich barn ar ddyfodol gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus  yn gobeithio y gallwch chi ymuno â nhw yn un o’i ddigwyddiadau ymgysylltu i roi eich syniadau arloesol i iddynt ar gyfer y gwaith a fydd yn cael ei wneud gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr (BGC) dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r BGC, sy’n cynnwys sefydliadau sector cyhoeddus ar draws y sir, yn rhedeg 3 digwyddiad ymgysylltu ym mis Gorffennaf ac yn awyddus i glywed gennych am yr hyn y dylai’r Bwrdd ganolbwyntio arno.

Erbyn Mai 2018, mae’n ofynnol i’r BGC gyhoeddi Cynllun Sirol Llesiant pum mlynedd a fydd yn dweud sut y bydd y BGC yn cydweithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Gaerfyrddin.  Mae hwn yn un o ofynion y BGC dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Bydd gweithdy #CyfnewidSyniadau yn cael ei gynnal yn y lleoliadau canlynol rhwng 1:30pm a 4:30pm:

Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2017 – Ystafell Lliedi, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli

Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2017 – Clwb Bowlio Dinefwr, Rhydaman

Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2017 – Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin

Mae’r BGC eisoes wedi datblygu drafft Amcanion Llesiant ar gyfer y Cynllun, yn seiliedig ar yr Asesiad Llesiant Lleol.  Mae canlyniadau o’r ymgyrch ymgysylltu a gynhaliwyd y llynedd yn ogystal ag ymchwil helaeth eraill wedi cael eu bwydo i mewn i’r Asesiad sydd wedi ei gyhoeddi nawr ac mae ar gael ar wefan y BGC.

Am fwy o fanylion am y BGC, ewch i’w gwefan.

Cwblhewch y ffurflen i gofrestru ar gyfer un o’r digwyddiadau

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction