Newyddion gwych i fusnesau yng Nghymru; mae band eang cyflym iawn yn dod i’ch sir chi!

Gall harneisio pŵer band eang cyflym iawn a’i dechnolegau cysylltiedig helpu eich busnes i dyfu a dod yn fwy proffidiol.

Ar hyn o bryd mae band eang cyflym iawn yn cael ei gyflwyno ledled y wlad a bydd yn cysylltu’r dinasoedd, trefi, pentrefi, a chymoedd Cymru â gweddill y byd ar gyflymder cyflym iawn; gan alluogi busnesau i fasnachu a thyfu mewn ffyrdd nas credir fod yn bosib.

Pa fanteision busnes gallwch eu disgwyl gan fand eang cyflym iawn:-

  • Cynnydd mewn elw – llai o alldaliadau a mwy o ymgysylltu â chwsmeriaid.
  • Cynnydd mewn cynhyrchiant– gall cyflwyno gweithio hyblyg gartref neu ar droed alluogi staff i wneud busnes gydag unrhyw un, mewn unrhyw le, ar unrhyw amser drwy ddefnyddio rhwydweithiau preifat ymarferol ac apiau seiliedig ar gwmwl eraill.
  • Cynyddu effeithlonrwydd – mae band eang cyflymach yn rhoi llwyfan mwy dibynadwy a chadarn fel gall defnyddwyr lluosog rannu’r un cysylltiad gwasanaeth heb arafu i lawr.
  • Arbed arian – lleihau costau TG drwy ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadura seiliedig ar gwmwl; newid gweinyddion corfforol drud drwy symud i storfa seiliedig ar gwmwl, lleihau costau ffôn drwy ddefnyddio VoIP, a gorbenion staff gyda gweithio hyblyg.
  • Gwella gwasanaeth i gwsmeriaid – cynyddu cynhaliaeth a ffyddlondeb drwy ddefnyddio meddalwedd CRM seiliedig ar gwmwl a chyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chwsmeriaid a chyflenwyr – cyfathrebu ar amser pan fydden nhw’n fwy tebygol o brynu.
  • Gwarchod eich asedau – diogelu eich cwsmeriaid, cynnyrch a data masnachol yn hyderus drwy ddefnyddio gwasanaethau diogelwch seiliedig ar gwmwl. Cadw eich meddalwedd busnes wedi’i ddiweddaru ynghyd â galluoedd megis data wrth gefn ar unwaith sy’n tynnu’r drafferth o ddiogelwch ac uwchraddiadau.
  • Helpu’r amgylchedd– mae lleihau teithiau i’r swyddfa a chyfarfodydd wyneb yn wyneb yn golygu ôl troed carbon is a defnyddio llai o danwydd.

Camau nesaf: 1.) Canfyddwch pryd mae band eang cyflym iawn yn dod atoch chi – Ewch i https://www.superfast-cymru.com/where-and-when?lang=_alt

2.) Archebwch le ar un o’n seminarau a digwyddiadau rhyngweithio am ddim sy’n cael eu cynnal ledled Cymru yn https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/band-eang-cyflym-iawn-sut-i-leihau-costau-a-chynyddu-elw/

3.) Archebwch sesiwn un-i-un gyda chynghorwr band eang cyflym iawn yn eich ardal chi – ffoniwch 03000 6 03000

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction