LinkedIn: Tipiau Marchnata

LinkedIn: Marchnata
LinkedIn: Tipiau Marchnata

Rhwydwaith cymdeithasol yw LinkedIn wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl proffesiynol i fedru cysylltu a’i gilydd.  Yn 2020, roedd 722 miliwn o bobol yn  defnyddio LinkedIn i ddatblgyu eu gyrfaoedd a’u busnesau.  Yn wahanol i’r cyfryngau cymdeithasol eraill nid cysylltu ậ phobol fel “ffrind” yw nod LinkedIn.  Yn hytrach, mae’n ffordd o ddatblygu perthynas strategol ag eraill h.y. y math o gysylltiadau sy’n bwysig.   Yn wir, nid yw LinkedIn yn dangos nifer y cysylltiadau dros 500 oherwydd nod LinkedIn yw ansawdd ac nid nifer.

Dyma rai tipiau ar sut i wella eich Marchnata ar LinkedIn:

Ymunwch ȃ’r sgyrsiau pwysig:

  • Postiwch, ymatebwch a golygwch eich Tudalen trwy’r ap ar eich ffôn symydol
  • Rhannwch sleidiau PowerPoint, PDF, a dogfennau Word
  • Ymatebwch ȃ sylwadau trwy ddefnyddio’r hashnodau sydd yn gysylltiedig â’ch Tudalen
  • Ymatebwch mewn amser real trwy ddefnyddio datrysiadau digwyddiadau rhithwir LinkedIn

Ymgysylltwch ȃ’ch pobol

  • Ail-rannwch sylwadau gorau eich gweithwyr a chynnwys LinkedIn ar @mentions
  • Hysbyswch eich gweithwyr o’r negeseuon pwysig  ar eich Tudalen er mwyn hybu cyrhaeddiad organig
  • Cydnabyddwch ddigwyddiadau cofiadwy gyda’ch tîm trwy rannu neges bersonol ar eich Tudalen
  • Adeiladwch ar yr ymgysylltiad ậ’ch pobol trwy ddefnyddio tudalen breifat ar gyfer gweithwyr yn unig trwy

My Company”.

Nodwch bwrpas eich busnes.

Dylai eich tudalen fusnes adlewyrchu’ch brand oherwydd dyma’r peth cyntaf bydd pobol yn gweld wrth glicio i’ch dilyn. Mae argraffiadau cyntaf yn bwysig! I ymddangos yn gredadwy ac yn ddibynadwy, cynhwyswch wybodaeth gredadwy am eich busnes.

Postiwch lun clir sy’n dangos beth yw pwrpas eich busnes. O wneud hyn bydd  yn annog eraill i ddilyn.

Crëwch fywgraffiad bachog

Cynhwyswch ddolen i’ch proffeil LinkedIn gyda’ch llofnod ebost.  Mae marchnatwyr llwyddiannus yn cydnabod  pwysigrwydd cynnwys cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol mewn ebost.  Gallwch golli’r cyfle i ennill mwy o

ddilynwyr trwy eu cadw ar wahân. Wrth anfon cynnwys marchnata, eich prif amcan yw ymgysylltu â’ch dilynwyr ậ gwybodaeth am eich busnes trwy ebost a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae tanysgrifwyr ebost yn debygol o glicio’r botymau cyfryngau cymdeithasol  gan yrru mwy o draffig trwy LinkedIn.

Cynhwyswch ddolen

Tacteg bach syml yw rhoi widget dilyn LinkedIn ar eich gwefan neu’ch blog. Bydd gan ymwelwyr i’ch Tudalen ddiddordeb yn eich cynnwys ac yn fwy tebygol o glicio ar eich tudalen fusnes i’ch dilyn neu rannu’ch erthygl.

Postiwch gynnwys da yn gyson.

Mae postio cynnwys o ansawdd uchel yn gyson yn hybu eich amlygrwydd ar LinkedIn gan gynyddu effeithlonrwydd eich ymgysylltiad ậ phobol.  Po fwyaf o bobol sydd yn ymweld â’ch Tudalen, y gorau bydd y cyfle i gynyddu eich dilynwyr. Gallwch wneud hyn mewn tri cham syml.  Yn gyntaf, mynnwch ddiddordeb eich cynulleidfa trwy

ddiweddaru gwybodaeth yn rheolaidd.  Golyga hyn byddant yn dychwelyd i’r dudalen yn gyson er mwyn chwilio am wybodaeth newydd.  Yn ail, pan fydd eich dilynwyr yn rhannu’ch cynnwys neu’n ymateb trwy gynnig sylwadau, bydd eu cysylltiadau yn gweld y gweithgaredd yn y llif negeseuon ac yna’n cynyddu eich amlgyrwydd i ddarpar ddilynwyr. Y cam olaf yw rhannu eich cynnwys â chymaint o grwpiau perthnasol â phosibl.

Rhannu Grwpiau

Mae LinkedIn yn sianel gymdeithasol ar gyfer gweithgareddau rhwng busnesau.  Bydd pobol proffesiynol yn ymateb i graffeg a lluniau yn eich blog felly gwnewch ymdrech i amrywio eich cynnwys a phostiwch sleidiau, inffograffau a phapurau gwyn.

Ystyriwch redeg ymgyrch Talu Fesul Clic (PPC) syml

Yn fwy na heb, prif bwrpas ‘talu fesul clic’ yw hyrwyddo’ch gwefan ar y sianelau cymdeithasol neu i gasglu ebyst gan ddefnyddwyr. Bydd clicio ar eich hysbyseb yn eu harwain at dudalen lanio. Gall lleoli hysbyseb ddeniadol sy’n cynnwys penawdau bachog gyda chynnwys craff a delweddau gymhellol gyfeirio defnyddwyr LinkedIn i’ch

hysbyseb. O ganlyniad, byddant yn clicio ar eich hysbyseb, yn ymweld â’ch gwefan ac yn eich dilyn gan roi hwb pellach i ddilynwyr hefyd. Mae’n werth edrych ar becynnau hysbysebion LinkedIn i weld a ydy hi’n fforddiadwy i’ch busnes.

Yn yr un modd, gallwch lansio ymgyrch Follow Ad sy’n ymddangos ar LinkedIn a thargedu’ch hysbyseb i gyrraedd cwmniau penodol. Pan fydd defnyddwyr yn clicio ar y botwm i’ch dilyn, bydd y gweithgaredd yn cael ei ledaenu i rwydweithiau’r cwmnïau hynny gan annog eraill i’ch dilyn.

Dilynwch gwmnïau eraill.

Mae llwyfannau cymdeithasol megis Twitter yn eich caniatau i ddilyn cwmnïau neu ddiwydiannau sy’n berthnasol i’ch busnes chi ac, yn eu tro, wnawn nhw eich dilyn chi. Mae’r un peth yn wir am LinkedIn; chwiliwch am gwmnïau o fewn yr un diwydiant ậ chi a’u dilyn.  Wrth ddangos diddordeb yn eu gweithgareddau mae’n debygol y gwnawn nhw eich dilyn chi.

Casgliad

Mae marchnatwyr Busnes i Fusnes (B2B) yn defnyddio LinkedIn i gynyddu amlygrwydd y brand, meithrin

perthnasoedd a chreu cysylltiadau newydd.

Ar gyfer defnyddio LinkedIn yn effeithlon y camau sylfaenol yw:

  • Creu Tudalen fusnes proffesiynol, atyniadol er mwyn cynyddu eich hygrededd
  • Defnyddio dolenni cyfrygnau cymdeithasol ar eich llofnod ebost ac ar eich gwefan i annog dilynwyr.
  • Cynnwys botwm rhannu LinkedIn ar eich gwefan neu flog.
  • Cyhoeddi cynnwys o ansawdd da yn gyson i gynyddu’r tebygolrwydd bydd eich cynullleiddfa yn argymell eich Tudalen i eraill.
  • Rhedeg ymgyrchoedd PPC i gynyddu nifer yr ymwelwyr i’ch gwefan ac i yrru dilynwyr newydd i’ch tudalen LinkedIn.
  • Dilyn cwmnïau eraill sydd ậ’r un gynulledifa darged a chi er mwyn denu dilynwyr newydd.
  • Annog eich gweithwyr i rannu’ch diweddariadau gan y bydd eu rhwydweithiau’n sylwi arnoch chi.

A oes angen help arnoch gyda’ch strategaeth farchnata?  Oes angen mireinio eich negesuon cyfathrebu neu  a oes angen gynllunio eich  llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu wefan?

Am wybodaeth bellach cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Neu holwch am ein Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Busnesau Cymreig trwy siarad â Dai Nicholas,

ein Rheolwr Marchnata ar 07736542280.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction